Cwrs IOSH 4 Diwrnod ar Reoli’n Ddiogel
Mae'r cwrs hyblyg hwn yn ddelfrydol i gael rheolwyr a goruchwylwyr i ddatblygu'r sgiliau y mae arnynt eu hangen i fynd i'r afael â materion iechyd a diogelwch yn y gweithle.
NODWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i bobl allanol sydd ddim yn staff y Brifysgol.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Rheolwyr a goruchwylwyr.
Amcan y gweithdy
- Galluogi rheolwyr i gael gwell dealltwriaeth o faterion iechyd a diogelwch yn y Brifysgol a'u rheoli
Manteision dod ar y cwrs
Erbyn diwedd y sesiwn hon dylech allu:
- deall rheoli iechyd a diogelwch yn y brifysgol a'ch swyddogaeth chi yn hynny o beth
- sicrhau bod iechyd a diogelwch yn cael ei reoli yn eich meysydd gwaith
Cynnwys
Modiwlau
- Asesu risgiau
- Rheoli risgiau
- Deall cyfrifoldebau
- Deall peryglon
- Ymchwilio i ddigwyddiadau
- Mesur perfformiad
Hyd
4 diwrnod
Dulliau Dysgu
Sesiynau cyfranogol a rhyngweithiol sy'n galluogi pobl i ddatblygu eu gwybodaeth a'u gallu i reoli iechyd a diogelwch yn eu meysydd gwaith Mae'n rhoi cyfle i ddysgu oddi wrth brofiadau pobl eraill mewn grŵp bychan.
Asesu / Tystysgrif
- Papur asesu aml-fformat yn cynnwys 25 o gwestiynau
- Project wedi'i seilio ar asesu risg
- Pan fyddwch yn pasio byddwch yn derbyn tystysgrif IOSH Managing Safely®
Costau’r Cwrs
Codir o gwmpas £60 y pen am y cwrs i dalu am ddarparu llawlyfrau'r cwrs a'r ffioedd arholi a rhoi tystysgrif.
Dyddiadau’r Cwrs
I drefnu cwrs i'ch Coleg / Adran neu i fynd ar gwrs cysylltwch â ni ar 3847 neu anfonwch neges e-bost atom iechydadiogelwch@bangor.ac.uk