Yr Is-Ganghellor
Mae gan yr Is-Ganghellor, fel Prif Swyddog Gweithredol y Brifysgol, gyfrifoldeb cyffredinol (i Gyngor y Brifysgol) dros hyrwyddo, gweinyddu a gweithredu Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol. Gall yr Is-Ganghellor ddirprwyo’r awdurdod i gynnal rhai o’r swyddogaeth i uwch staff fel mae’n addas o dan system rheolaeth y Brifysgol.
Fel rheol bydd y Grŵp Tasg Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau yn gweithredu ar ran yr Is-Ganghellor ym meysydd iechyd a diogelwch.