Diogelwch Personol / Trais yn y Gwaith
Diogelwch Personol
Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i sicrhau y gall staff, myfyrwyr, contractwyr ac ymwelwyr weithio, astudio a byw mewn amgylchedd diogel a braf. O’r herwydd, mae gwaith yn mynd rhagddo i wella amgylchedd y Brifysgol, gan wella pethau megis goleuadau, wyneb llwybrau a darparu teledu cylch cyfyng ychwanegol. Os, fodd bynnag, bod aelod staff neu fyfyriwr yn teimlo dan fygythiad neu yn anniogel ar gampws y Brifysgol, yn ei hadeiladau neu ar ei thiroedd, dylent gysylltu â Diogelwch y Brifysgol ar:
01248 382795 (allanol)
ext 2795 (mewnol)
333 (Rhif Argyfwng)
Mae gan dîm Diogelwch y Brifysgol hefyd eu gwefan eu hunain fel rhan o dudalennau’r Gwasanaeth Diogelwch sy’n darparu manylion am y Swyddfeydd Diogelwch, cyngor cyffredinol ynglŷn â diogelwch personol ac ati.
Trais yn y Gwaith
Mae'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a'r Brifysgol yn diffinio trais sy'n gysylltiedig â gwaith fel unrhyw ddigwyddiad lle mae gweithiwr yn cael ei gam-drin, ei fygwth neu’n dioddef ymosodiad mewn amgylchiadau sy'n codi yng nghwrs y gyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys cam-drin a bygythiadau geiriol, bwlio ac ymosodiadau corfforol, p'un a yw'n arwain at anaf ai peidio, a gall aelodau'r cyhoedd gynnwys ymwelwyr, cleientiaid, cleifion, gweithwyr y Brifysgol neu fyfyrwyr.
Mae dileu unrhyw fath o aflonyddu a bwlio yn bwysig i’r Brifysgol gan ei bod yn cydnabod bod ymddygiad o'r fath yn annerbyniol, yn wahaniaethol ac, mewn rhai amgylchiadau, hefyd yn anghyfreithlon. Dylai aelodau staff sy'n cael eu bygwth, bwlio, yn profi ymddygiad ymosodol, erledigaeth, aflonyddu ac ati gysylltu â’r adran Adnoddau Dynol neu â’u Rheolwr Llinell. Maent i gyd yno i help.
Pan fo risg o drais oherwydd gweithgareddau gwaith dylai'r Coleg neu'r Adran berthnasol asesu'r risgiau hyn, naill ai trwy gynnal asesiad risg pwrpasol ar wahân neu ddefnyddio eu Hasesiad Risg Cyffredinol, a bwrw ymlaen i reoli, lleihau a/neu liniaru'r potensial hwnnw. Gwneir hyn fel rheol mewn pedwar cam:
- Cam 1 Darganfod a oes gennych broblem
- Cam 2 Penderfynu pa gamau i'w cymryd
- Cam 3 Gweithredu
- Cam 4 Gwirio yr hyn yr ydych wedi'i wneud
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y dull 4 Cam ac am y risgiau sy’n gysylltiedig â thrais yn y gwaith yn y ac ar y Weithrediaeth.
Gallai'r camau rheoli gynnwys:
- ail-ddylunio cynllun derbynfeydd / swyddfeydd,
- darparu gwahaniad corfforol,
- rhagasesu ‘cleientiaid’ a allai beri risg uwch o ymddygiad treisgar,
- cyfarwyddo staff ynglŷn â thechnegau i osgoi gwrthdaro,
- cyflwyno dulliau o gael gafael ar gefnogaeth cydweithwyr yn gyflym a hyd yn oed cyflwyno teledu cylch cyfyng
Darperir gwybodaeth fanylach hefyd yn yr European Social Partner Agreement Guidance, . Mae'r ddogfen hon yn cynrychioli ymrwymiad i sicrhau bod y risg o brofi aflonyddu neu drais tra boch y gwaith yn cael ei asesu a'i atal neu ei reoli'n briodol.
Mae cymorth arbenigol ar asesu risg trais ar gael gan yr adran Ddiogelwch.
Risgiau i ffwrdd o'r Brifysgol
O bryd i’w gilydd tra bo staff a myfyrwyr i ffwrdd o’r Brifysgol gall eu gweithgareddau eu rhoi mewn mwy o berygl o drais neu gam-drin, gall hyn fod yn arbennig o wir wrth gynnal ymchwil gymdeithasol gyda ‘grwpiau risg’ neu mewn ‘meysydd risg’. Mae'n ofynnol i bob Coleg ac Adran ystyried y risg i staff a myfyrwyr wrth weithio i ffwrdd o'r Brifysgol ei hun a phan fo risg, dylai naill ai ail-lunio'r astudiaeth / gweithgaredd er mwyn osgoi'r risg honno neu roi camau rheoli a lliniaru addas ar waith i leihau tebygolrwydd a chanlyniadau unrhyw ddigwyddiad yn sylweddol.
Yr hyn sy’n ofynnol yn llygaid y gyfraith
Mae pum prif ddarn o gyfraith iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i drais yn y gwaith. Y rhain yw:
-
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 (Deddf HSW). Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol o dan y Ddeddf hon i sicrhau, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr.
-
Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999. Rhaid i gyflogwyr asesu'r risgiau i weithwyr a gwneud trefniadau ar gyfer eu hiechyd a'u diogelwch trwy: gynllunio; trefnu; rheoli; monitro ac adolygu. Dylai'r risgiau sy’n cael sylw, lle bo hynny'n briodol, gynnwys yr angen i amddiffyn gweithwyr rhag dod i gysylltiad â thrais y gellir ei ragweld yn rhesymol.
-
Rheoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 1995 (RIDDOR). Rhaid i gyflogwyr hysbysu eu hawdurdod gorfodi os bydd damwain yn y gwaith i unrhyw weithiwr sy'n arwain at farwolaeth, anaf difrifol neu analluogrwydd i wneud gwaith arferol am dri diwrnod neu fwy yn olynol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithred o drais corfforol anghydsyniol a wneir i berson yn y gwaith.
- Rheoliadau Cynrychiolwyr Diogelwch a Phwyllgorau Diogelwch 1977 (a) a Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Ymgynghori â Gweithwyr) 1996 (b). Rhaid i gyflogwyr hysbysu, ac ymgynghori â, gweithwyr mewn da bryd ar faterion sy'n ymwneud â'u hiechyd a'u diogelwch. Gall cynrychiolwyr gweithwyr, naill ai wedi'u penodi gan undebau llafur cydnabyddedig o dan (a) neu wedi'u hethol o dan (b) gyflwyno sylwadau i'w cyflogwr ar faterion sy'n effeithio ar iechyd a diogelwch y rhai y maent yn eu cynrychioli.
Mae'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch hefyd wedi creu nifer o ddogfennau sy'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar reoli trais yn y gwaith:
Cefnogaeth
Mae cefnogaeth ar gael i staff sy'n cael profiad o ddigwyddiadau o'r fath tra bônt yn y gwaith. Gall staff gael mynediad at wasanaeth cwnsela cyfrinachol am ddim. Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ar gael ar Wefan Adnoddau Dynol.
Yn ogystal, gall y Brifysgol gynnig cefnogaeth gyfreithiol, os yw natur digwyddiad yn cyfiawnhau gweithredu o'r fath.