Anafiadau Offer Miniog
Mae gweithwyr labordy yn cael anafiadau amlaf gan offer miniog, hynny yw llestri gwydr wedi torri, pigiadau gan nodwyddau a briwiau gyda llafnau sgalpel. Maent yn digwydd yn gyffredinol oherwydd bod unigolyn wedi methu â chydymffurfio â gweithdrefnau trin diogel a sylfaenol.
Rhaid delio ag anafiadau o'r math hwn ar unwaith am ddau reswm:
- Y trawma a achosir gan yr anaf ei hun. Gall yr anafiadau fod yn bigiad gan nodwydd, rhwygo'r croen gyda gwydr wedi torri neu dorri'r croen gyda lafn scalpel. Gall difrifoldeb yr anaf amrywio o fod yn un bychan i un difrifol.
- Y posibilrwydd o gael pigiad neu ddod i gysylltiad â deunyddiau peryglus neu rai a all fod yn beryglus. Gall y peryglon hyn fod yn gemegol neu'n radio-gemegol. Yn yr achosion hyn bydd effeithiau andwyol yn dibynnu ar nodweddion y deunyddiau dan sylw e.e. llidus neu ymbelydredd.