Sgaffaldiau
Rhaid i unrhyw ddefnydd o sgaffaldiau fod yn destun asesiad risg ac yn y rhan fwyaf o achosion dan neu drwy reolaeth y Gwasanaethau Eiddo a Champws.
Cyn defnyddio unrhyw sgaffald, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddiogel ac yn addas i'r gwaith.
- A yw'r sgaffaldiau'n cael eu codi, eu haddasu a'u datgymalu gan bobl gymwys?
- A oes platiau sylfaen yn dod gyda'r polion syth (a, lle bo angen, platiau gwadnau pren)?
- A yw'r holl bolion, canllawiau, cyplysau a chroeslathau yn eu lle?
- A yw'r sgaffald wedi ei roi yn sownd i'r adeilad neu'r strwythur mewn digon o leoedd i'w atal rhag dymchwel?
- A oes rheiliau gwarchod dwbl a byrddau traed, neu amddiffyniad addas arall, ar bob ymyl, i atal pobl rhag disgyn?
- A oes rheiliau brics ychwanegol i atal deunyddiau rhag disgyn o'r sgaffaldiau?
- A yw'r llwyfannau gweithio wedi'u byrddio'n llawn, ac a yw'r byrddau wedi eu gosod i osgoi tipio neu faglu?
- A oes rhwystrau neu arwyddion rhybuddio effeithiol wedi eu gosod i atal pobl rhag defnyddio sgaffald anorffenedig, e.e. lle nad yw llwyfannau gweithio wedi'u byrddio'n llawn?
- A yw'r sgaffald yn ddigon cryf i gario pwysau'r deunyddiau sydd wedi'u storio arno ac a yw'r rhain wedi'u dosbarthu'n gyfartal?
- A yw'r sgaffaldiau'n cael eu cynnal a'u cadw'n iawn?
- A oes person cymwys yn archwilio'r sgaffaldiau yn rheolaidd, e.e. o leiaf unwaith yr wythnos; a bob amser ar ôl iddo gael ei addasu, ei ddifrodi ac ar ôl tywydd eithafol?
- A yw canlyniadau'r arolygiadau yn cael eu cofnodi?
- A godwyd sgaffaldiau tŵr masnachol ac a ydynt yn cael eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr?
- A yw olwynion y sgaffaldiau tŵr wedi'u cloi pan fyddant yn cael eu defnyddio ac a yw'r llwyfannau'n wag pan fyddant yn cael eu symud?
Sgaffaldiau mynediad cyffredinol
Ar gyfer unrhyw sgaffald dylech sicrhau'r canlynol:
- A yw'n cael ei gynllunio, ei godi, ei addasu a'i ddatgymalu gan bobl gymwys ac a yw'r gwaith yn cael ei gyfarwyddo gan oruchwyliwr cymwys?
- Ni ddylid byth ei godi uwch ben pobl na phalmentydd prysur.
- A yw'n seiliedig ar sylfaen gadarn, wastad?
- A yw wedi'i rwymo a'i glymu yn sownd i strwythur parhaol neu wedi'i sefydlogi mewn ffordd arall?
- A yw'n gallu cynnal llwythi sy'n debygol o gael eu gosod arno? Nid yw sgaffaldiau fel rheol wedi'u cynllunio i gynnal llwythi trwm ar eu llwyfannau gweithio, ac ni ddylech fyth roi gorchuddion ar sgaffald heb roi gwybod i'r gwneuthurwr.
- A yw'r llwyfannau wedi eu byrddio'n llawn ac yn ddigon llydan ar gyfer y gwaith a chael mynediad?
- A yw byrddau'r sgaffaldiau wedi eu cynnal yn gywir ac nid ydynt yn gwyro drosodd yn ormodol (e.e. dim mwy na phedwar gwaith trwch y bwrdd)?
- A oes ysgol ddiogel neu fynediad arall i'r llwyfannau gwaith?
- A yw'n addas ar gyfer y dasg cyn iddo gael ei ddefnyddio a'i wirio pryd bynnag y caiff ei addasu yn sylweddol neu ei effeithio'n andwyol gan, er enghraifft, gwyntoedd cryfion?
Sgaffaldiau tŵr
Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer codi, defnyddio a datgymalu. Dylai copi o'r llawlyfr cyfarwyddiadau fod ar gael - os yw'r sgaffald wedi'i logi, dylai'r llogwr ddarparu'r wybodaeth hon.
- Rhaid i'r tŵr fod yn fertigol a dylai'r coesau orffwys yn iawn ar dir cadarn, gwastad.
- Dylid cloi unrhyw olwynion a pholion cydbwyso - mae platiau sylfaen yn rhoi mwy o sefydlogrwydd os nad oes rhaid symud y tŵr.
- Darparu ffordd ddiogel i fynd i'r llwyfan gwaith ac oddi yno, er enghraifft, ysgolion mewnol. Gall dringo i fyny ar ochr allanol y tŵr ei dynnu drosodd.
- Rhoi amddiffyniad ar yr ochrau (rheiliau gwarchod a byrddau traed).
- Rhoi rheiliau gwarchod a byrddau traed ar unrhyw lwyfannau canol sydd hefyd yn cael eu defnyddio fel llwyfannau gweithio neu ar gyfer storio deunyddiau.
Clymwch y tŵr yn sownd i'r strwythur y mae'n ei wasanaethu neu gosodwch rywbeth arall i'w gynnal yn y sefyllfaoedd canlynol:
- Os es unrhyw orchudd ar y tŵr.
- Mae'n debygol o fod yn agored i wyntoedd cryfion.
- Mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer chwythu graean neu chwistrellu dŵr.
- Mae deunyddiau trwm yn cael eu codi ar ochr allanol y tŵr.
- Mae sylfaen y tŵr yn rhy fach i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer uchder y llwyfan.
Os oes angen clymau, gwiriwch eu bod yn cael eu rhoi yn eu lle yn ôl yr angen pan godir y sgaffald. Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu gwirio o bryd i'w gilydd a bod y clymau angenrheidiol yn cael eu cadw yn eu lle pan fydd y sgaffald yn cael ei ddatgymalu.
Peidiwch â gwneud y canlynol:
- Defnyddio ysgol sydd â'i thraed ar y platfform gweithio neu ddefnyddio llwythi llorweddol eraill a allai ogwyddo'r tŵr.
- Gorlwytho'r platfform gweithio.
- Gosod clymau yn sownd i ganol tiwbiau alwminiwm â waliau tenau.
- Symud y tŵr trwy ddefnyddio'r grym angenrheidiol ar lefel y llwyfan.
- Dringo i fyny ar ochr allanol y tŵr i gyrraedd y llwyfan.
Symud tŵr symudol
- Gwiriwch nad oes llinellau trydan na rhwystrau uwchben yn y ffordd.
- Gwiriwch nad oes tyllau na phantiau yn y ddaear.
- Peidiwch â gadael i bobl neu ddeunyddiau aros arno gan fod tyrau'n troi drosodd yn hawdd iawn wrth gael eu symud.