Pyrotechneg a Thân Gwyllt
SYLWER: Os yw Pyrotechneg yn dod o fewn cwmpas llawn y yna rhaid gofyn am awdurdod penodol yn dilyn Ardystiad a chymeradwyaeth yr awdurdod trwyddedu.
Diffiniadau: Mae pyrotechneg/pyrotechnegau yn golygu unrhyw beth sy'n cynnwys sylweddau ffrwydrol neu gymysgedd ffrwydrol o sylweddau gyda'r bwriad o gynhyrchu gwres, golau, sain, nwy neu fwg neu gyfuniad o effeithiau o'r fath trwy adweithiau cemegol ecsothermig hunangynhaliol. Mae Sylwedd Pyrotechnegol yn golygu sylwedd ffrwydrol o fath a fwriedir i gynhyrchu effaith trwy wres, golau, sain, nwy neu fwg, neu gyfuniad o unrhyw un o'r rhain, o ganlyniad i adweithiau cemegol ecsothermol, hunangynhaliol sydd ddim yn ffrwydrol.
Digwyddiadau Dan Do
Gellir gwella llawer o sioeau a digwyddiadau trwy ddefnyddio pyrotechneg (a elwir weithiau'n dân gwyllt dan do), gan roi'r 'waw ffactor' ar yr eiliad iawn neu swn pwerus ergydion gwn yn ystod drama ar lwyfan. Defnyddir arddangosfeydd pyrotechnegol ar lwyfan yn bennaf i wella golygfa neu gân benodol, neu i dynnu sylw'r gynulleidfa at ran o'r set llwyfan neu dynnu sylw oddi wrthi.
Yn y brifysgol, mae'n rhaid i'r defnydd o byrotechneg (sydd o fewn yr eithriadau i'r ) gael ei gymeradwyo gan y tîm Iechyd a Diogelwch yn y swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio ac ni chaiff ei ystyried hyd nes y derbynnir y gwaith papur. Fel rheol, yr unig eithriadau i'r rheol hon yw Cynyrchiadau a Digwyddiadau a reolir gan Pontio, lle rhoddir cymeradwyaeth gan Gyfarwyddwr Technegol Pontio.
Gall pyrotechneg a ddefnyddir at ddibenion 'addysg' (addysgu ac arddangosiadau) <0.5grams gael eu heithrio rhag trwyddedu. Gofynnwch am gyngor pellach gan y Iechyd a Diogelwch.
Un o'r problemau mwyaf cyffredin gyda defnyddio pyrotechneg yw'r diffyg cynllunio ymlaen llaw. Yn aml mae angen pyrotechneg ond gwneir y penderfyniadau'n hwyr iawn gyda'r canlyniad o geisio eu hymgorffori mewn sioe ar ôl popeth arall, e.e. lleoli pyrotechneg yn hwyr ar doeau llwyfan neu'n rhy agos at y cast neu'r gynulleidfa. Trwy wneud gwaith cynllunio cynnar gellir goresgyn llawer o'r problemau a dileu risgiau diangen.
Cofiwch, mae pyrotechneg yn aml yn achosi i fwg gael ei ollwng ac felly bydd angen addasu'r system larwm tân. Mae angen digon o amser ar yr Adran Gwasanaethau Eiddo a Champws i drefnu hyn ac mewn rhai achosion efallai y bydd angen i chi addasu eich arddangosfa oherwydd yr effaith ar systemau larwm yr adeilad. Cysylltwch â'r Gwasanaethau Campws mewn digon o amser.
Os ydych yn bwriadu defnyddio pyrotechneg yn ystod eich digwyddiad, anfonwch eich asesiad risg a manylion cymwysterau a phrofiad yr unigolyn sy'n rheoli'r pyrotechneg (pyrotechnegydd); peidiwch ag anghofio ystyried y lefelau swn a'i effaith ar y gynulleidfa a'r cast.
Mae cyhoeddiad y Iechyd a Diogelwch "" yn cynnig cyngor da ar ddefnyddio pyrotechneg dan do ac yn yr awyr agored.
Os yw eich cynhyrchiad a reolir gan y brifysgol yn cael ei gynnal yn yr awyr agored (hynny yw cynhyrchiad a gynhelir yn yr awyr agored lle mae'r pyrotechneg yn cael ei ddefnyddio i wella'r profiad) dilynwch yr un protocolau, a restrir uchod.
Tân Gwyllt Awyr Agored
Yn gyffredinol, bwriedir i arddangosfeydd tân gwyllt fod yn adloniant eu hunain. Rhagwelir mai dim ond personél arddangos tân gwyllt trwyddedig fydd yn darparu digwyddiad tân gwyllt ar dir y brifysgol, neu ar ran y brifysgol. Os ydych yn ystyried trefnu digwyddiad tân gwyllt, yn gyntaf gofynnwch am gymeradwyaeth gan yr Gwasanaethau Campws ac yna trafodwch yr hyn sydd ei angen gyda'r Iechyd a Diogelwch.