Lleoliadau Myfyrwyr
Mae mwy i fywyd Prifysgol na dim ond astudiaethau academaidd, mae hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn cynifer o weithgareddau â phosib, er mwyn iddynt adael gyda llu o wahanol brofiadau ac atgofion yn ogystal â gradd! Mae lleoliadau myfyrwyr, sy’n rhan o lawer o gyrsiau, yn rhan annatod o’r profiad hwnnw ac mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i roi’r cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliadau gwaith o bob math dan haul. Bydd iechyd a diogelwch yn dal i chwarae rhan, ond nid atal lleoliadau yw ei ddiben, ond sicrhau bod ein myfyrwyr yn cadw’n iach ac yn ddiogel.
Gweler hefyd: Profiad Gwaith – Sesiynau Blasu, Lleoliadau ac Interniaethau (Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd)
Mae’r Brifysgol wedi sefydlu Còd Ymarfer ar Ddysgu ar Leoliad sy’n rhoi gwybodaeth am y camau y mae’n rhaid eu cymryd wrth gynllunio lleoliad. Mae gan yr Universities Safety and Health Association (USHA) hefyd ganllawiau defnyddiol ar deithiau maes a theithio dramor a all fod o gymorth wrth ystyried agweddau ar iechyd a diogelwch lleoliad, yn enwedig rhai mwy anarferol!
Lleoliadau Tramor
Mae astudio neu weithio dramor fel rhan o’ch gradd yn gyfle unwaith mewn oes. Yn draddodiadol byddai myfyrwyr ym mhrifysgolion Prydain yn astudio dramor yn ystod eu hail flwyddyn ac yn trosglwyddo’r credydau a enillwyd. Ond ym Mangor mae opsiwn pellach o allu ychwanegu ‘Blwyddyn Profiad Rhyngwladol’ at eich rhaglen radd. Mae hwn yn gyfle i astudio neu weithio dramor am flwyddyn academaidd gyfan, ac ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Profiad Rhyngwladol yn llwyddiannus fel rheol bydd ‘gyda phrofiad rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd.
Rhaid i bob lleoliad tramor gael ei brosesu gan Swyddfa Cynllun Cyfnewid Rhyngwladol y Ganolfan Addysg Ryngwladol (IEC), ar y cyd â Chydlynydd Lleoliadau eich Ysgol. Fel rhan o’r trefniadau cyffredinol bydd gofyn i chi fynd ar hyfforddiant, a drefnir gan yr IEC, ar bethau cyffredin i’w gwneud a pheidio â’u gwneud ar leoliad tramor. Cyn gadael bydd disgwyl i chi gwblhau ‘Rhestr Wirio Asesiad Risg Lleoliad Myfyriwr’.
Fel rhan o’r broses hon mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Yswiriant Teithio ar-lein y Brifysgol. SYLWCH: Bydd Yswiriant Teithio’r Brifysgol dim ond yn eich gwarchod ar gyfer eich gweithgareddau ar leoliad. Chi fydd yn gyfrifol am weithgareddau/teithio a wnewch yn ystod eich amser hamdden a rhaid i chi drefnu Yswiriant Teithio Personol addas ar gyfer hynny yn ogystal ag unrhyw anghenion brys anfeddygol.
Mae mwy o wybodaeth am leoliadau tramor ar gael ar wefan y Ganolfan Addysg Ryngwladol (IEC). Os ydych yn teithio dramor ar fusnes y Brifysgol mae gwybodaeth gyffredinol i’w gweld ar wefan y Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch.
Cysylltiadau Defnyddiol – Lleoliadau yn y Deyrnas Unedig a Thramor
- Asesiadau Risg Enghreifftiol (yn cynnwys Lleoliadau Myfyrwyr Tramor)
- Ystyriaethau a Phrosesau Cyffredinol IaD wrth drefnu lleoliad
- Canllawiau’r USHA ar Iechyd a Diogelwch Lleoliadau
- Atodiad A Canllawiau’r USHA ar greu proffil risg lleoliad a chamau i’w cymryd i leihau risg
- Atodiad A (Adran Waith yn Unig) Canllawiau USHA
- Canolfan Addysg Ryngwladol (IEC)
- Gwefan Teithio Tramor