Sŵn yn y Gwaith
Gall sŵn uchel niweidio clyw, yn enwedig os yw'r unigolyn yn clywed sŵn uchel yn rheolaidd a chrëwyd Rheoliadau Sŵn 2005 i ddelio â'r perygl hwn yn y gwaith.
Mae'r rheoliadau'n nodi lefelau sŵn y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy yn ôl y gyfraith ac yn gosod dyletswyddau ar gyflogwyr i atal neu leihau risgiau i iechyd a diogelwch a ddaw yn sgil dod i gysylltiad â sŵn yn y gwaith trwy:
- Asesu'r risgiau i weithwyr o sŵn yn y gwaith.
- Cymryd camau i leihau'r sŵn y mae gweithwyr yn ei glywed sy'n cynhyrchu'r risgiau.
- Rhoi amddiffyniad clyw i weithwyr os na ellir lleihau'r sŵn trwy ddulliau eraill.
- Sicrhau nad eir y tu hwnt i'r terfynau cyfreithiol ar sŵn.
- Rhoi gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant i weithwyr.
- Ymgymryd â threfn wyliadwriaeth iechyd os mae sŵn yn peri risg i iechyd.
Mae'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch yn darparu arweiniad rhagorol ar sŵn yn y gwaith i gyflogwyr a gweithwyr, gan gynnwys cyfrifwyr sŵn sy'n helpu asesu faint o sŵn sydd i’w glywed bob dydd ac wythnosol. Mae mwy o wybodaeth ar Wefan HSE yn: