Nanoddefnyddiau
Mae Grŵp Nanoddiogelwch y Deyrnas Unedig wedi datblygu canllawiau i gefnogi arferion gwaith diogel a chyfrifol gyda nanoddefnyddiau mewn labordai ymchwil a datblygu.
Mae ail fersiwn y Canllawiau, a ryddhawyd fis Mai 2016, ar gael i'w .
Nanoddefnydd
Y diffiniad yw deunydd sy'n naturiol, yn atodol neu wedi'i weithgynhyrchu sy'n cynnwys gronynnau (nanoddefnyddiau), nad ydynt yn rhwym o ran eu cyflwr neu fel agreg neu fel athyriad ac, o ran 50% neu fwy o'r gronynnau yn y dosbarthiad y maint a'r nifer, mae un neu fwy o'r dimensiynau allanol yn yr ystod maint 1 nm - 100 nm. Mewn achosion penodol a lle bo pryderon am yr amgylchedd, iechyd, diogelwch neu gystadleurwydd yn cyfiawnhau hynny, gellir gosod trothwy dosbarthiad y maint a'r nifer rhwng 1 a 50% yn lle'r trothwy o 50%. Yn yr un modd, dylid ystyried ffwlerenau, naddion graphen a nanotiwbiau carbon wal sengl ac iddynt un neu fwy o ddimensiynau allanol o dan 1 nm yn nanoddefnyddiau.
- Gronyn: darn bach o fater gyda ffiniau ffisegol diffiniedig.
- Athyriad: casgliad o ronynnau neu agregau sydd wedi'u rhwymo'n wan a'r arwynebedd allanol sy'n deillio o hynny'n debyg i swm arwynebedd arwynebeddau'r cydrannau unigol.
- Agregyn: gronyn sy'n cynnwys gronynnau sydd wedi'u rhwymo'n gryf neu wedi'u hasio.
- Nanoffibr: nano-wrthrych ac iddo ddau ddimensiwn allanol tebyg ar y nanoraddfa a'r trydydd dimensiwn yn sylweddol fwy [ISO/TS 27687, def. 4.3].
- Nano-wrthrych: deunydd ac iddo un, dau neu dri dimensiwn allanol ar y nanoraddfa [ISO/TS 27687, def.2.2].
- Nanoronyn: nano-wrthrych ac iddo bob un o'r tri dimensiwn ar y nanoraddfa [ISO/TS 27687, def. 4.1].
- ±·²¹²Ô´Ç²ú±ôâ³Ù: nano-wrthrych ac iddo ddau ddimensiwn allanol ar y nanoraddfa ac mae'r ddau dimensiwn arall yn sylweddol fwy [ISO/TS 27687, def. 4.2].
- Nanoraddfa: ystod maint rhwng oddeutu 1 nm a 100 nm [ISO/TS 27687, def. 2.1].
- Nanodiwb: nanoffibr gwag [ISO/TS 27687, def. 4.4].
- Nanoddefnyddiau gronynnol): nanoddefnyddiau sy'n cynnwys nano-wrthrychau fel nanoronynnau, nanoffibrau, nanodiwbiau, nanowifrau, yn ogystal ag agregau ac athyriadau o'r deunyddiau hynny naill ai yn eu ffurf wreiddiol neu wedi'u hymgorffori mewn deunyddiau neu baratoadau, y gellid eu rhyddhau ohonynt.