Dodrefn a Deuyddiau Dodrefnu - Diogelwch Tân
Dodrefn
Rhaid i'r holl ddodrefn sydd mewn llwybrau dianc a thramwyfeydd, mannau cymunedol, adeiladau/mannau trwyddedig ac ym mhob adeilad preswyl gydymffurfio â Rheoliadau Dodrefn a Deunyddiau Dodrefnu (Diogelwch Tân) sy'n ei gwneud yn ofynnol llenwi a gorchuddio'r deunyddiau gan gyflawni rhai safonau sy'n ymwneud â thân a mynd ar dân, ac sydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol labelu'r eitem a / neu ei nodi'n unol â hynny.
Rhaid i unrhyw orchudd ar ddodrefn llawn sbwng fod mewn cyflwr da er mwyn lleihau perygl tân, ac felly mae'n bwysig bod y Colegau / yr Adrannau yn archwilio'r dodrefn fel rhan o'r archwiliadau cyffredinol ar y gweithle, gan drefnu i waredu / atgyweirio / newid unrhyw ddodrefn a gaiff eu difrodi ar unwaith.
Mae'n bosib bod dodrefn clustogog a wnaed cyn i’r rheoliadau ddod i rym yn cynnwys llenwadau sbwng a all fynd ar dân yn hawdd, llosgi’n danbaid a chynhyrchu mwg gwenwynig. Felly rhaid sicrhau bod label ar y dodrefn i ddweud eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Os nad oes label ar y ddodrefn dylid eu rhoi mewn mannau lle mae'r perygl tân yn isel, er enghraifft: mewn ystafelloedd caeëdig, megis swyddfeydd ac yn y blaen.
Llenni a Gorchuddion
Rhaid labelu'r llenni a'r gorchuddion sydd ar lwybrau dianc a thramwyfeydd, mannau cymunedol, adeiladau/mannau trwyddedig, gan gynnwys gorchuddion llwyfan, er mwyn nodi eu bod wedi eu gwneud â defnydd sy'n gwrthsefyll tân neu'u bod wedi eu trin â chemegau sy'n gwrthsefyll tân. Rhaid dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr neu’r cyflenwyr wrth lanhau llenni a gorchuddion sy'n gwrthsefyll tân.
Efallai bod llenni a gorchuddion (gan gynnwys eitemau'r set ac addurniadau llwyfan) nad ydynt wedi eu dilysu'n rhai sy'n gwrthsefyll tân, yn addas ar gyfer triniaeth broffesiynol neu i chi eu trin drosoch eich hun. Rhaid labelu unrhyw lenni a gorchuddion a gaiff eu trin yn y modd yma er mwyn nodi beth oedd y driniaeth a'r dyddiad.