Digwyddiadau
Digwyddiadau Allanol
Rhaid i bob archeb a digwyddiad allanol gael eu trefnu trwy'r Swyddfa Gynadleddau yn gyntaf. Bydd y Swyddfa Gynadleddau yn ceisio sicrhau y bydd y digwyddiad yn llwyddiant a bod mesurau a chefnogaeth iechyd a diogelwch addas yn cael eu darparu.
Digwyddiadau'r Brifysgol (Colegau, Ysgolion a Gwasanaethau)
Pan drefnir digwyddiadau o fewn y brifysgol, gan ysgolion neu gymdeithas, rhaid i rai ystyriaethau iechyd a diogelwch fod yn rhan o'ch cynllunio.
Caiff y rhan fwyaf o ddigwyddiadau eu cynllunio a'u rheoli'n dda, fel y gellir cael achlysur pleserus a llwyddiannus. Ond nid yw hyn yn wir bob amser a gellir cael anawsterau. Mae'r rhain yn bennaf oherwydd diffyg cynllunio priodol a thrylwyr.
Os ydych chi'n cynllunio digwyddiad mae'n hanfodol eich bod yn:
- Rhoi gwybod i'r Swyddfa Archebu Ganolog/Amserlennu a chadarnhau'r digwyddiad
- Rhoi gwybod i'r Swyddfa Diogelwch a chadarnhau trefniadau parcio a diogelwch cerddwyr
- Nodi a oes angen asesiad risg manylach o'r digwyddiad, byddai hyn yn ystyried pob agwedd yn cynnwys mynediad ac arddangosiadau ymarferol
- Rhoi gwybod i'r swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio os bydd plant yn mynd i'r digwyddiad
- Sicrhau eich bod wedi cynllunio ar gyfer goruchwylio digwyddiadau cyffredinol ac argyfyngau posibl
- A fyddwch angen trydanwr neu a fyddwch eisiau symud dodrefn? Os felly, bydd angen i chi gysylltu â'r Gwasanaethau Campws
- Rhoi gwybod i ddefnyddwyr eraill yr adeilad os bydd y digwyddiad yn debygol o darfu ar eu gweithgareddau
- Os bydd y digwyddiad yn cynnwys alcohol rhaid cysylltu â'r Swyddfa Gynadleddau i gadarnhau cydymffurfio â deddfwriaeth drwyddedu
- Ar ôl y digwyddiad - gwiriwch i sicrhau nad oes unrhyw broblemau a achoswyd gan y digwyddiad sydd angen sylw (er enghraifft bocsys/sbwriel sydd angen eu gwaredu, lloriau wedi'u difrodi ac mae angen i'r Gwasanaethau Campws eu trwsio)
Os ydych chi'n cynllunio digwyddiad mawr sy'n cynnwys dwsinau neu gannoedd o bobl, byddai'n well i chi gysylltu â'r staff diogelwch a'ch Cydlynydd Iechyd a Diogelwch (y Iechyd a Diogelwch o bosibl) cyn gynted ag y bo modd.
Enghreifftiau o asesiadau risg
- Enghraifft o asesiad risg arddangosfa ar dir y brifysgol
- Enghraifft o asesiad risg cynnal cynhadledd gyda gwesteion allanol