Defnyddio Awyrennau Bach Di-griw (Dronau)
CYSYLLTWCH Â'R SWYDDFA IECHYD A DIOGELWCH CYN YMGYMRYD AG UNRHYW WAITH GYDA DRONAU
Ni chaniateir i unrhyw Ysgol, Coleg, Gwasanaeth nac aelod o staff na myfyriwr, na 3ydd Parti hedfan nac awdurdodi unrhyw un i hedfan drôn fel rhan o fusnes y Brifysgol (nac uwch ben eiddo'r brifysgol) heb gymeradwyaeth ymlaen llaw.
Bydd yn ofynnol cyflwyno'r ffurflen berthnasol i’r Adran iechyd a Diogelwch a derbyn cymeradwyaeth cyn gweithredu'r drôn.
- Safon Polisi ar Ddefnyddio Awyrennau Bach Di-Griw (Dronau)
- Dronau - Ffurflen Awdurdodi Peilot o Bell (rhaid i staff a myfyrwyr ei chyflwyno i'r Swyddfa Iechyd a Diogelwch i gael cymeradwyaeth)
- Cynllun Cenhadaeth Drone a Ffurflen RA (i'w gyflwyno gan staff a myfyrwyr i'r Swyddfa Iechyd a Diogelwch ar gyfer pob taith awyren)
- Ffurflen Cymeradwyo Gweithredu Drôn dan Arweiniad 3ydd Parti (3ydd partïon i'w llenwi a'i chyflwyno)
Beth yw drôn?
Awyren heb beilot dynol ynddi yw drôn. Byddant yn hedfan naill ai'n awtonomaidd, dan reolaeth cyfrifiaduron ar fwrdd yr awyren ei hun, neu’n cael eu rheoli o bell gan beilot ar y ddaear. Yn hanesyddol cânt eu cysylltu â’r lluoedd arfog ond yn y blynyddoedd diwethaf mae dronau’n cael eu defnyddio hefyd at ddibenion eraill, e.e. arolygon, ffilmio digwyddiadau, ymchwil i fywyd gwyllt.
Oherwydd eu maint, a'r ffaith eu bod yn defnyddio rotorau/llafnau cyflym, gall dronau fod yn hynod o beryglus os nad ydynt yn cael eu defnyddio'n gywir. Yn y blynyddoedd diwethaf cafwyd nifer cynyddol o ddamweiniau neu ddigwyddiadau'n gysylltiedig â defnyddio dronau.
Gofynion Deddfwriaethol
Mae gan y Brifysgol a'i Cholegau a'i Gwasanaethau cyfansoddol rwymedigaeth benodol wrth weithredu dronau i gydymffurfio â gofynion Gorchymyn Awyrlywio (Diwygiad) 2020 (a elwir hefyd yn CAP2038A00).
Hyd at 31 Rhagfyr 2020, roedd y lefel cymhwysedd ac ardystiad peilot yr oedd ei angen yn seiliedig ar unrhyw fuddion masnachol o hedfan drôn. O 1 Ionawr 2021 nid oedd yn ofynnol mwyach nodi a oedd hediadau'n fasnachol neu'n anfasnachol. Yn hytrach, bydd cymhwysedd peilot yn cyd-fynd â lefel y risg y mae pob hediad yn ei chyflwyno. Ymhlith yr ystyriaethau mae Dosbarth yr awyren sy'n cael ei hedfan (gan gynnwys unrhyw ategolion), pa mor agos y bydd y drôn yn hedfan at bobl nad ydyn nhw'n ymwneud yn uniongyrchol â'r hediad (pobl nad ydynt yn ymwneud â’r drôn) a pha mor agos y bydd y drôn yn hedfan o ardaloedd adeiledig (ardaloedd poblog). Po fwyaf yw'r risg, po fwyaf trwyadl yw’r hyfforddiant sydd ei angen ac ymwneud yr Awdurdod Hedfan Sifil.
Categorïau Risg
Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil bellach yn gweithredu tri chategori risg, sef:
-
Categori Agored: Gweithrediadau risg isel (gan gynnwys 3 is-gategori A1, A2, A3) os gellir dilyn paramedrau penodol, gellir eu cynnal yn ddiogel ac nid oes angen awdurdodiad penodol yr Awdurdod Hedfan Sifil arnynt.
-
Categori Penodol: Gweithrediadau risg canolig na ellir eu cynnal o fewn paramedrau'r Categori Agored. Gofynnir am fwy o gymhwysedd peilot profedig a gweithdrefnau a ddiffinnir yn glir ac a awdurdodir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil.
-
Ardystiedig: Mà s drôn uwchlaw 25kg a risg uchel. Nid ymgymerir â’r categori hwn yn fewnol yn y brifysgol.
Dim ond yn y Categori Agored a'r Categori Penodol y bydd y brifysgol yn gweithredu gweithrediadau drôn, a dim ond y Peilot Pell a enwir, fel y manylir ar Awdurdodiad Gweithredol CAA y Brifysgol, sy'n gallu cyflawni gweithrediadau drôn o dan y "Categori Penodol". Mae rheolau ar benodiadau 3ydd Parti wedi'u crynhoi isod.
Cynllun Cofrestru Dronau ac Awyrennau Model (DMARES)
Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) (sy'n goruchwylio'r defnydd o ddronau) yn mynnu bod unrhyw un sy'n gweithredu unrhyw ddrôn â chyfarpar camera, hyd yn oed o dan 250g, yn ymgymryd â DMARES. Cynllun hyfforddi a chofrestru ar-lein yw DMARES, gyda'r unigolyn sy'n dilyn y cwrs yn cael Rhif Adnabod Hedfanwr (Flyer ID) ar ôl ei gwblhau.
SYLWCH: Er mwyn rhoi sicrwydd o lefel sylfaenol o gymhwysedd, mae'r brifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl staff a myfyrwyr sy'n gweithredu dronau ymgymryd â DMARES o leiaf.
Rhif Adnabod Gweithredwr (Operator ID)
Mae angen Rhif Adnabod Gweithredwr gan unrhyw un (gall fod yn sefydliad) sy'n gweithredu unrhyw ddrôn 250g a throsodd ac unrhyw ddrôn â chamera (ac eithrio dronau sydd wedi'u dosbarthu fel tegan). Mae gan y brifysgol Rif Adnabod Gweithredwr ar gyfer pob drôn sy'n eiddo i'r brifysgol ac mae'n rhaid ei arddangos ar y drôn. Rhaid i staff a myfyrwyr sy'n dymuno gweithredu eu drôn eu hunain ar fusnes sy'n gysylltiedig â'r brifysgol sicrhau eu bod yn cael eu Rhif Adnabod Gweithredwr eu hunain a’i arddangos yn ôl yr angen.
Polisi ar Ddefnyddio Awyrennau Bach Di-Griw
Er mwyn cefnogi gweithredu dronau, mae'r brifysgol wedi datblygu Polisi ar Ddefnyddio Awyrennau Bach Di-griw (dronau) sy’n gosod dyletswydd ar bob Deon Coleg / Pennaeth Gwasanaeth Proffesiynol i roi systemau ar waith i sicrhau bod unrhyw ddronau a ddefnyddir gan eu Coleg / Gwasanaeth yn cael eu gweithredu'n ddiogel ac yn gywir. Diben hyn yw sicrhau na achosir niwed i unrhyw berson, yr amgylchedd nac / neu asedau.
Mae'r canlynol yn grynodeb o gyfrifoldebau allweddol Colegau / Gwasanaethau dan y polisi:
-
Sicrhau bod y Swyddfa Iechyd a Diogelwch yn awdurdodi a bod yr Awdurdod Hedfan Sifil yn rhoi Awdurdodiad Gweithredol lle bo angen.
-
Sicrhau bod staff a myfyrwyr yn deall y gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â defnyddio dronau, gan gynnwys gofynion o ran cymhwysedd ac awdurdodi.
-
Darparu hyfforddiant a goruchwyliaeth briodol i alluogi staff a myfyrwyr i weithredu dronau’n gywir ac yn ddiogel.
-
Cadw cofnodion perthnasol, e.e. hyfforddiant, awdurdodiad.
-
Monitro’r defnydd a wneir o ddronau, gan roi gwybod i'r Swyddfa Iechyd a Diogelwch ar unwaith am unrhyw bryderon neu newidiadau mewn perthynas â gweithgarwch sy’n defnyddio dronau.
Comisiynu Trydydd Parti
- Wrth gomisiynu 3ydd parti i weithredu drôn ar ran Coleg/Adran, dylid cadarnhau fod gan y sefydliad Awdurdodiad Gweithredol priodol gan yr Awdurdod Hedfan Sifil, bod ganddynt Beilotiaid wedi eu hyfforddi a'u cofrestru, Yswiriant, Caniatâd Data (e.e. Cytundeb Ffilmio) a phrofiad o wneud y math o waith sydd angen ei wneud.
- Rhoi gwybod i’r Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch am y bwriad i benodi 3ydd Parti, gan ddefnyddio'r Ffurflen ar gyfer Cymeradwyo Gweithredu Dronau dan arweiniad 3ydd Parti, a derbyn cymeradwyaeth cyn i'r gwaith ddigwydd. Mae hyn yn cynnwys manylion am y lleoliadau maent yn bwriadu hedfan drostynt a chadarnhad y cedwir pellter diogel oddi wrth bobl ac eiddo.
- Pan fo gwaith awyr yn digwydd o gwmpas neu uwchben adeiladau neu eiddo'r Brifysgol, dylid rhoi gwybod i'r Ysgolion/Gwasanaethau perthnasol am y gwaith dan sylw a'r camau rheoli sydd mewn grym. Lle bo'n briodol dylid cytuno pryd y bydd yr hedfan uwchben yn digwydd er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
- Os yw ffilmio'n digwydd uwchben tir/eiddo nad yw'n eiddo i'r Brifysgol, dylid ceisio caniatâd ysgrifenedig gan y sawl sy'n gyfrifol am y fan honno cyn cyflwyno'r Ffurflen ar gyfer Cymeradwyo Gweithredu Dronau dan arweiniad 3ydd Parti i'r Swyddfa Iechyd a Diogelwch.
Defnydd Hamdden / Hedfan Dronau am Hwyl
Chi sy’n gyfrifol am bob hediad. Arnoch chi mae’r cyfrifoldeb cyfreithiol a gallai methu â hedfan mewn modd cyfrifol arwain at erlyniad troseddol. Mae gan yr Awdurdod Hedfan Sifil fanwl lle ceir gwybodaeth bwysig. Gall y gofynion gynnwys cwblhau DMARES a rhaid arddangos Rhif Adnabod Gweithredwr ar y drôn.
- Hedfan Dronau am Hwyl; yn syml, mae'r rheoliadau'n nodi:
- Cadwch eich drôn yn y golwg bob amser.
- Arhoswch o dan 400 tr.
- Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
- Cadwch y pellter cywir oddi wrth bobl ac eiddo.
- Chi sy’n gyfrifol am bob hediad.
- Arhoswch ymhell i ffwrdd o awyrennau, meysydd awyr a meysydd glanio.
Mae gwych sy’n trafod rheoliadau sylfaenol ar gyfer hedfan drôn wedi'i greu gan gymdeithas dronau First Person View.