Lleoedd Cyfyng
Cyflwyniad
Ar gyfartaledd, mae gwaith mewn lleoedd cyfyng yn lladd 15 o bobl bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, a hynny ar draws ystod eang o ddiwydiannau, yn amrywio o rai sy'n cynnwys peiriannau cymhleth at storfeydd syml. Caiff nifer o bobl hefyd eu hanafu’n ddifrifol ac mae’r rheiny sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n cynnwys nid yn unig bobl sy’n gweithio mewn lleoedd cyfyng ond pobl sy’n ceisio eu hachub heb hyfforddiant ac offer priodol.
Beth yw lle cyfyng?
Gall lleoedd cyfyng fod yn unrhyw ofod o natur gaeedig lle mae risg o farwolaeth neu anaf difrifol o sylweddau peryglus neu amodau peryglus (e.e. diffyg ocsigen).
Nid yw'n bosibl darparu rhestr gynhwysfawr o leoedd cyfyng oherwydd gall rhai mannau fod yn lleoedd cyfyng pan wneir gwaith arnynt, neu yn ystod y broses o’u hadeiladu, eu saernïo neu eu haddasu. Mae rhai lleoedd cyfyng yn weddol hawdd eu hadnabod, e.e. mannau amgaeedig heb allanfeydd digonol, e.e. tanciau storio, seilos, draeniau caeedig a charthffosydd. Gall eraill fod yn llai amlwg, ond gallant fod yr un mor beryglus, e.e., siambrau plastig neu Plexiglas, dwythellau, ystafelloedd heb eu hawyru neu wedi'u hawyru'n wael.
Yn y Brifysgol
Dim ond nifer fechan o 'leoedd cyfyng' sydd gan y Brifysgol fel y’u diffinnir gan y Rheoliadau Lleoedd Cyfyng. Mae'r holl waith yn y mannau hyn yn cael ei reoli gan y Gwasanaethau Campws.
Atgoffir pob Coleg a Gwasanaeth bod yn rhaid i waith o fewn neu ar ffabrig adeilad neu ei wasanaethau gael ei wneud gan Gwasanaethau Campws, neu fod o dan reolaeth Gwasanaethau Campws.
Gofynion Deddfwriaethol
Os yw lleoliad a/neu'r gwaith sydd i'w wneud yn golygu bod man gwaith yn cael ei diffinio fel 'lle cyfyng', daw'r Rheoliadau Lleoedd Cyfyng yn y Gwaith i rym sy'n gosod amodau a dyletswyddau llym er mwyn rheoli'r risgiau sy'n deillio o waith o'r fath. Yn gryno, mae'r dyletswyddau hynny'n cynnwys:
- osgoi mynd i mewn i leoedd cyfyng, e.e. trwy wneud y gwaith o'r tu allan;
- os na ellir osgoi mynd i mewn i le cyfyng, dilyn system waith diogel;
- rhoi trefniadau brys digonol ar waith cyn i'r gwaith ddechrau; a
- gofynion cymhwysedd, sgiliau a phrofiad penodol gan weithwyr
Mae mwy o wybodaeth am y gofynion ar gael ar .
Oni bai eich bod yn gweithio o dan reolaeth uniongyrchol y Gwasanaethau Campws gyda Thrwydded i Weithio: Cysylltwch ag Iechyd a Diogelwch cyn cyflawni unrhyw waith y credwch y gellid ei ddiffinio fel gweithio mewn lle cyfyng.