Diogelwch Bwyd: Gwerthu Cacennau a Digwyddiadau tebyg
Defnyddir gwerthiant cacennau yn aml fel ffordd hwyliog o godi arian at achos da e.e. elusen. Fodd bynnag, gellir achosi dryswch ynghylch gofynion diogelwch bwyd a'r gwahanol safonau sy'n berthnasol, er enghraifft, rhwng 'busnes bwyd' gwirioneddol a gwerthiant cacennau elusennol a gynhelir unwaith yn unig.
Gobeithio y bydd y canllawiau canlynol yn helpu i ateb rhai o'r cwestiynau hynny. Fodd bynnag, os oes gennych bryderon o hyd, mae pob croeso i chi gysylltu ag Iechyd a Diogelwch.
'Busnes Bwyd' v Arwerthiant Cacennau Elusen
Rhaid i fusnes bwyd, fel mannau arlwyo'r Brifysgol sy'n darparu bwyd yn rheolaidd ac yn drefnus, gofrestru gyda'r awdurdod lleol fel 'busnes bwyd'. Rhaid iddo sicrhau bod eu staff yn cael hyfforddiant priodol (e.e. Tystysgrifau Hylendid Bwyd) a rhaid iddo weithredu system gadarn rheoli diogelwch bwyd Dadansoddiad Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).
Nid oes angen cofrestru ar gyfer digwyddiadau fel arwerthiant cacennau, sy'n ddigwyddiad a gynhelir unwaith yn unig, lle mae bwyd risg isel yn cael ei weini, ac yn gyffredinol, nid oes angen Tystysgrif Hylendid Bwyd arnoch (er bod cyrsiau Diogelwch Bwyd sylfaenol ar-lein ar gael). Wrth gwrs bydd angen i chi sicrhau eich bod chi'n trin bwyd yn ddiogel.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n cynllunio Arwerthiant Cacennau?
- Dylech gael cymeradwyaeth ymlaen llaw bob amser e.e. gan Bennaeth yr Ysgol, neu'r sawl sy'n gyfrifol am y lle.
- Gwiriwch fod yr ardal yn yr hon yr ydych chi'n bwriadu trefnu'r digwyddiad ar gael (h.y. a oes angen i chi ei bwcio'n ffurfiol)
- Trefnwch y digwyddiad i ffwrdd o fannau arlwyo sydd wedi'u sefydlu'n barod
- Sicrhewch fod pawb sy'n gysylltiedig yn ymwybodol o'r diogelwch bwyd sylfaenol a'r gofynion sefydlu isod
Cysylltiadau