CAM 1: AWDURDODIAD
Bydd dilyn y trefniadau awdurdodi teithio (ac ariannol) cyffredinol a bennwyd gan eich Coleg/Ysgol/Adran yn ddigonol fel rheol. Fodd bynnag, mewn rhai achosion prin, yn dibynnu ar gyngor y (FCDO) ynglŷn â'r wlad y byddwch yn teithio iddi, ac mae'n rhaid i chi wirio'r cyngor bob tro y byddwch yn teithio, bydd angen awdurdodiadau a/neu amodau ychwanegol.
Mae manylion llawn ar gael yn y Polisi Teithio Tramor ond i grynhoi, pan fo'r:
The yn cynghori yn erbyn unrhyw deithio i ardal oni bai ar fusnes hanfodol:
- Rhaid cwblhau asesiad risg cynhwysfawr gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gyngor gan y Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch, Yswiriwr y Brifysgol a'r FCDO. Ym mhob achos, rhaid i'r rhesymau dros deithio fod yn eithriadol gryf.
- Rhaid i Ddeon y Coleg/Cyfarwyddwr Gwasanaeth roi awdurdodiad (neu, os yw Deon y Coleg/Cyfarwyddwr Gwasanaeth Proffesiynol yn dymuno teithio, awdurdodiad gan y Grwp Tasg Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfwng).
-
Rhaid i yswirwyr y brifysgol gymeradwyo'r teithio a rhaid llenwi'r Ffurflen Yswiriant Teithio ar-lein.
The yn cynghori yn erbyn unrhyw deithio i ardal:
-
Rhaid i holl deithio o'r fath (oni bai ei fod yn teithio i'w mamwlad) gael ei gymeradwyo gan y Grwp Tasg Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfwng neu'r Is-ganghellor. Mae angen o leiaf 10 diwrnod o rybudd cyn gadael.
-
Ni fydd y Grwp Tasg yn ystyried ceisiadau teithio o'r fath oni bai bod Achos Diogelwch ysgrifenedig i'w cefnogi, a bod hynny wedi'i gadarnhau gan y Deon Coleg neu Bennaeth Ysgol/Cyfarwyddwr Gwasanaeth Proffesiynol, yn datgan yn glir bod yr angen i deithio'n gwbl angenrheidiol.
-
Rhaid i yswirwyr y brifysgol gymeradwyo'r teithio a rhaid llenwi'r Ffurflen Yswiriant Teithio ar-lein.
Teithio i Wlad neu Ranbarth Cartref:
-
Gall staff neu fyfyrwyr sydd eisiau dychwelyd i'w gwlad gartref i wneud ymchwil/gwaith, a bod gan y wlad (neu ranbarth) dan sylw gyfyngiadau teithio gan yr FCDO i ddinasyddion o'r Deyrnas Unedig, gael caniatâd i deithio ar yr amod y cyflawnir meini prawf penodol. Gweler y Polisi Teithio Dramor am fanylion llawn.
Os ydych yn teithio i wlad gyda statws risg uwch gan yr FCDO, rydym yn eich cynghori i gofrestru â Llysgenhadaeth Prydain neu Swyddfa'r Conswl pan gyrhaeddwch, a chadw eu manylion cyswllt gyda chi bob amser.