Iechyd a Diogelwch i Ddeoniaid a Phenaethiaid Ysgol
Sesiwn tair awr bwrpasol sy'n rhoi cyd-destun i 'pam iechyd a diogelwch' ac sy'n canolbwyntio ar ddisgwyliadau i golegau ac ysgolion ddarparu lle diogel i weithio ac astudio. Bydd y sesiwn yn ystyried canllawiau a safonau'r brifysgol a'r sector ar gyfer arwain a rheoli iechyd a diogelwch, ac mae'n cynnwys senarios ac astudiaethau achos pwrpasol.
SYLWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i staff nad ydynt yn staff Prifysgol Bangor.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Deoniaid a Phenaethiaid Ysgolion, arweinwyr addysgu ac ymchwil o fewn Colegau, Rheolwyr Colegau ac Ysgolion ac uwch arweinwyr priodol eraill.
Amcan y gweithdy
- Darparu cefndir, dealltwriaeth a gwybodaeth am sut i reoli iechyd a diogelwch yn y coleg, am ddisgwyliadau a gofynion y brifysgol, a sut i fod yn sicr eich bod wedi gwneud popeth sy'n rhesymol i ddiogelu pobl.
Manteision y gweithdy
Ar ôl bod yn y sesiwn dylech allu gwneud y canlynol:
Meddu ar ddealltwriaeth dda o pam mae angen i ni reoli iechyd a diogelwch
-
Gwerthfawrogi beth yw risg a sut i reoli a lliniaru risg, er mwyn galluogi gweithgareddau i ddigwydd
-
Gallu nodi a deall yr hyn sydd ei angen arnoch chi, eich ysgol a'ch coleg a'r hyn sydd angen i ni ei wneud i gefnogi staff a myfyrwyr
Hyd
3 awr
Dulliau Dysgu
Cyflwyniadau, senarios a gweithgareddau grŵp
Asesu
Nid yw'r cwrs yn cynnwys asesiad.
Dyddiadau’r Cwrs
I drefnu cwrs i'ch Coleg / Adran neu i fynd ar gwrs cysylltwch â ni ar 3847 neu anfonwch neges e-bost atom i iechydadiogelwch@bangor.ac.uk