Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau
Pwyllgor Iechyd a Diogelwch Colegol / Adrannol
Dylai Pwyllgorau Iechyd a Diogelwch Colegol / Adrannol gynrychioli pob uned gyfansoddol briodol o fewn y Coleg / Adran, a gall adrodd yn uniongyrchol wrth Bennaeth y Coleg / Adran neu wrth Fwrdd Astudiaethau neu Bwyllgorau perthnasol eraill o fewn y Coleg neu’r Adran.
Fel un o’u hamcanion, dylai Pwyllgorau Iechyd a Diogelwch Colegol / Adrannol nodi eu bod yn hybu cydweithrediad rhwng staff, myfyrwyr a rheolwyr o ran sefydlu, datblygu a chynnal dulliau oi sicrhau iechyd a diogelwch yr holl staff a myfyrwyr.
Dylai eu haelodaeth gynnwys cynrychiolaeth briodol o staff a myfyrwyr yn y Coleg / Adran, a dylai gael ei gadeirio gan aelod profiadol o'r Coleg / Adran.
Dyma brif swyddogaethau'r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch Coleg / Adran:
- Monitro effeithiolrwydd y Polisi Iechyd a Diogelwch Adrannol.
- Derbyn a thrafod adroddiadau ar ddamweiniau ac argymell camau cywiro.
- Derbyn a thrafod adroddiadau arolygu ac argymell camau gweithredu ar gyfer gwelliannau.
- Trafod newidiadau arfaethedig i bolisi neu drefn.
- Cynorthwyo i ddatblygu trefnau diogel o waith a rheolau diogelwch lleol, a nodi’r trefnau hyn ar bapur.
- Argymell wrth Bennaeth y Coleg / Adran newidiadau angenrheidiol i Bolisi Iechyd a Diogelwch.
- Derbyn eitemau iechyd a diogelwch gan unrhyw aelod o staff, myfyrwyr neu ymwelwyr.