Penaethiaid Colegau ac Adrannau
Gwasanaethau Eiddo a Champws
Mae Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo a Champws yn gyfrifol am reoli, cynllunio a chynnal a chadw’n gyffredinol ystâd y Brifysgol. Bydd Gwasanaethau Eiddo a Champws yn rhoi ar waith drefniadau sy’n angenrheidiol i sicrhau diogelwch a lles staff, myfyrwyr ac ymwelwyr â'r Brifysgol, a bydd yn sicrhau bod peryglon a risgiau sylweddol, sy'n gysylltiedig â chynllun, cynnal a chadw a rheolaeth gyffredinol eiddo’r Brifysgol, yn cael eu hasesu a'u rheoli’n addas.
Mae penaethiaid Colegau ac Adrannau’n gyfrifol dan y Polisi Iechyd a Diogelwch am sicrhau nad yw gweithgareddau'r Coleg neu Adran yn cael effaith niweidiol ar ddiogelwch preswylwyr adeiladau, a’u bod yn cael eu cynnal yn ddiogel gan roi ystyriaeth briodol i gynllun, cynnal a chadw a defnydd yr adeilad. Bydd Penaethiaid Colegau ac Adrannau yn sicrhau bod Gwasanaethau Eiddo a Champws yn cael gwybod am unrhyw berygl neu risg sylweddol sy'n gysylltiedig ag adeilad neu dir, a bod rheolaethau addas yn cael eu gweithredu, lle bo hynny’n briodol, i rwystro’r risg rhag cael ei gwireddu.