Diogelwch Nwy Cywasgedig
Pwy ddylai gymryd rhan?
Unrhyw un sy’n trin neu ddefnyddio nwyon cywasgedig. Mae hyn yn cynnwys symud, trin a newid rheolyddion ar silindrau.
NODWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i bobl allanol sydd ddim yn staff y Brifysgol.
Amcan y gweithdy
Rhoi gwybodaeth ac arweiniad i'r unigolion hynny sy'n trin a defnyddio silindrau nwy a nwy cywasgedig i’w galluogi i gyflawni’r tasgau hyn yn ddiogel.
Manteision y gweithdy
Erbyn diwedd y sesiwn hon dylech allu:
• Adnabod y mathau o nwyon a phroblemau sy'n gysylltiedig â hwy
• Deall y ffordd gywir i archwilio, profi a newid rheolydd
• Cyflawni gweithgareddau trin yn y ffordd gywir a nodi'r cyfarpar cywir sydd ei angen i wneud y gwaith hwnnw
Cynnwys
Natur a pheryglon nwyon cywasgedig - rheoli silindr, peryglon a dulliau gweithredu mewn argyfwng
Dangos dulliau trin a thrafod diogel a’u hymarfer
Materion ymarferol yn ymwneud â newid rheolyddion a gwirio cysylltiadau - y rheolydd cywir ar gyfer y gwaith wedi’i osod yn gywir, ei archwilio a’i brofi
Hyd
5 awr
Dulliau Dysgu
Gweithredir hyn trwy weithgareddau cyflwyno, arddangos ac ymarferol.
Asesu / Ardystio
Mae'r cwrs yn cael ei asesu a rhoddir tystysgrif i’r rhai fydd yn ei gwblhau’n llwyddiannus.
Dyddiadau’r Cwrs
I drefnu cwrs i'ch Coleg / Adran neu i fynd ar gwrs cysylltwch â ni ar 3847 neu anfonwch neges e-bost atom iechydadiogelwch@bangor.ac.uk