Pwyllgor Iechyd a Diogelwch y Brifysgol
O Hydref 2014 fydd cyfansoddiad a chylch gorchwyl y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch fel a ganlyn:
Cyfansoddiad
Math o Aelod | Penodwyd gan |
---|---|
CADEIRYDD | Penodwyd gan Gyngor y Brifysgol |
YN RHINWEDD SWYDD | Yr Is-Ganghellor Llywydd Undeb Myfyrwyr Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol |
2 PENODWYD GAN Y CYNGOR | O aelodau'r Cyngor sydd ddim yn aelodau Senedd |
2 PENODWYD GAN SENEDD | A fydd yn Benaethiaid Coleg, Ysgol neu Adran |
6 CYDLYNWYR neu SWYDDOGION IECHYD A DIOGELWCH | I gynrychioli bob sector a gweithgareddau yn y Brifysgol |
10 CYNRYCHIOLYDD STAFF | A phenodwyd gan yr Undebau Llafur |
2 AELOD O'R UNDEB MYFYRWYR | A phenodwyd gan yr Undeb Myfyrwyr |
CADEIRYDD IS-BWYLLGORAU | Fydd Cadeirydd bob Is-bwyllgor yn cael eu cyfetholedig fel Aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch |
YSGRIFENNYDD | Pennaeth Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch |
Bydd Swyddogion y Brifysgol hefyd yn mynychu fel ymgynghorwyr neu i gyflwyno adroddiadau lle a phan fo’n briodol.
Cylch Gorchwyl
- Argymell y cyfryw gamau ag y credir sydd eu hangen er mwyn cyflawni goblygiadau cyfreithiol y Brifysgol ynghylch materion iechyd, diogelwch a lles a sicrhau y cymerir camau rhesymol i hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles staff, myfyrwyr, ymwelwyr awdurdodedig ac aelodau’r cyhoedd sy’n dod i mewn i stad y Brifysgol yn gyfreithlon
- Cynghori’r Brifysgol ar gwestiynau o Bolisi Iechyd a Diogelwch, goruchwylio gweithredu Polisi cymeradwy Iechyd a Diogelwch y Brifysgol ac argymell i’r Cyngor unrhyw newidiadau sydd eu hangen yn natganiad y polisi hwnnw
- I adrodd yn flynyddol i’r Cyngor ar berfformiad iechyd a diogelwch y Brifysgol
- I benodi’r cyfryw Is-bwyllgorau ag y mae’n pennu sydd eu hangen
-
I adrodd i’r Cyngor ar ol bob cyfarfod