Plant ar Eiddo'r Brifysgol
Ar draws y Brifysgol, mae'n gyffredin gweithio gyda phlant neu gael plant yn ymweld i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae hefyd yn gyffredin gweld plant ar dir y Brifysgol neu'n cerdded trwy'r campws.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae lefel o gyfrifoldeb pan fydd plant yn ymweld â’r Brifysgol, a chan gofio hynny, mae isadeiledd a nifer o drefniadau a phrotocolau wedi’u rhoi ar waith i helpu i’w diogelu. Gall plant, yn enwedig plant sydd ar eu pennau eu hunain, wneud pob math o ddrygioni, ac yn aml mae angen i ni i gyd ystyried ‘sut gallen nhw frifo eu hunain’ wrth gynllunio digwyddiadau, a hyd yn oed wrth ddylunio safleoedd neu adeiladau newydd.
Ar gyfer Gweithgareddau wedi’u Cynllunio: i helpu i sicrhau iechyd, diogelwch a lles plant tra byddant yn y Brifysgol, mae'n hanfodol bod Colegau / Gwasanaethau yn ystyried y risg uwch i blant ac yn rhoi camau rheoli priodol ar waith i helpu i'w hamddiffyn. Mae enghreifftiau o weithgareddau’n cynnwys ymchwil, ymarfer hyfforddiant athrawon / sesiynau ymarferol, ymweliadau gan ysgolion (gan gynnwys gweithgareddau chwaraeon), profiad gwaith a phrofiad myfyrwyr, a phlant yn aros mewn Neuaddau Preswyl.
Ar gyfer ein Hamgylchedd: Mae’r Gwasanaethau Campws wedi asesu risgiau rhagweladwy nad ydynt yn cael eu profi mewn mannau cyhoeddus ehangach, ac yn ceisio atal niwed i blant.
Y diffiniadau iechyd a diogelwch cyfreithiol o ‘Blentyn’
Mae'r diffiniadau canlynol yn berthnasol i ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch yn unig.
-
Plentyn (Plant): Plentyn yw unrhyw un nad ydynt eto wedi cyrraedd yr oedran swyddogol ar gyfer gadael ysgol. Bydd disgyblion yn cyrraedd yr oedran swyddogol ar gyfer gadael ysgol yn y flwyddyn ysgol pan fyddant yn troi’n 16 oed.
-
Person Ifanc: Person ifanc yw unrhyw un sy’n hŷn na’r oedran swyddogol ar gyfer gadael ysgol ond nad ydynt yn 18 oed eto.
Defnyddir diffiniad gwahanol wrth gyfeirio at ‘ddiogelu’, a chaiff plentyn ei ystyried fel unrhyw un dan 18 oed. Cewch ragor o wybodaeth ar y dudalen hon o dan y pennawd Diogelu.
Cyfrifoldebau
Mae gan y Brifysgol ddyletswydd drwy Adran 3 o’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc, a'i his-reoliadau, i wneud popeth sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau diogelwch plant tra bônt ar eiddo'r Brifysgol ac wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan arweiniad y Brifysgol.
I gefnogi’r ymrwymiad hwn, mae polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol yn cynnwys y gofyniad penodol canlynol o dan Adrannau 14.1, 14.3 a 14.4 (Plant a Phobl Ifanc), ac mae’n rhaid i bob Coleg a Gwasanaeth Proffesiynol gadw ato.
Plant ar Dir y Brifysgol (gan gynnwys heb awdurdod)
Mae’r rhan fwyaf o diroedd, meysydd parcio a ffyrdd y Brifysgol ar agor i’r cyhoedd felly gall plant ddefnyddio ardaloedd fel maes chwarae neu fel llwybr cyflym. Er bod y Brifysgol yn gyfrifol am sicrhau iechyd a diogelwch unrhyw un ar ei heiddo, mae gan y Gwasanaethau Campws gyfrifoldeb cyffredinol i wneud popeth o fewn eu gallu i gadw mannau lle caniateir mynediad cyhoeddus a/neu pan mai hynny sy’n arferol, yn addas i’r diben a heb fod yn peri risg sylweddol.
Polisi I&D y Brifysgol
Mewn perthynas â phlant, mae Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol (Adran 14) yn nodi:
14.1 Mae’r brifysgol yn cydnabod ei dyletswydd estynedig dros sicrhau lles a diogelwch plant pan fyddant ar eiddo neu yn adeiladau'r brifysgol, neu wrth gymryd rhan mewngweithgareddau a arweinir gan y brifysgol. Rhaid ystyried y ddyletswydd estynedig hon gan bawb sy'n ymwneud i unrhyw raddau â goruchwylio neu reoli plant a phobl ifanc ac wrth gynnal asesiadau risg.
14.3 Rhaid i bob Coleg neu Wasanaeth Proffesiynol sy'n caniatáu neu'n gwahodd plant ar eiddo'r brifysgol, neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau, sicrhau bod asesiad risg addas a digonol wedi ei gynnal, pan fo'r angen, a bod rheolau digonol yn eu lle.
14.4 Mae gofyn i'r Adran Eiddo a Gwasanaethau Campws ystyried risgiau i blant yn ei holl gynigion, dyluniadau, datblygiadau a chynnal a chadw adeiladau a mannau allanol, gan gynhyrchu asesiadau risg fel bo'n briodol i'r risgiau.
Gwybodaeth Bellach
Ceir gwybodaeth am y canlynol ar y Daflen Wybodaeth, sy’n cynnwys y penawdau canlynol:
- Dyletswyddau Cyffredinol y Colegau a’r Gwasanaethau Proffesiynol
- Plant yn Ymweld â Labordai a Gweithdai
- Dyletswyddau Ychwanegol y Gwasanaethau Proffesiynol
- Plant heb eu Goruchwylio
- Plant Contractwyr
- Ymweliadau gan Grwpiau
- Tudalen we Pobl Ifanc a Phlant yn y Gwaith.
- • Gellir dod o hyd i Asesiadau Risg enghreifftiol, megis asesiad risg Profiad Gwaith .
- Mae tudalen we hefyd yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth.
- • I gael gwybodaeth am fynd â phlant i ddarlithoedd, gweler tudalennau gwe’r .