Diogelwch Biolegol
Pwy ddylai gymryd rhan?
Pobl, heb brofiad blaenorol, sy'n bwriadu defnyddio organebau peryglus grŵp 2 neu organebau a addaswyd yn enetig.
NODWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i bobl allanol sydd ddim yn staff y Brifysgol.
Amcan y gweithdy
Rhoi dealltwriaeth i rai sy’n cymryd rhan o’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â defnyddio organebau peryglus neu a addaswyd yn enetig, a dulliau gweithio diogel i drin a thrafod organebau o’r fath.
Manteision y gweithdy
Erbyn diwedd y sesiwn hon dylech allu:
1) Nodi ffynonellau o cyfryngau peryglus
2) Deall egwyddorion COSHH a Rheoliadau Defnyddio’n Annibynnol Organebau a Addaswyd yn Enetig
3) Gwneud asesiadau Risg a COSHH ar ddefnyddio organebau peryglus neu organebau a addaswyd yn enetig
4) Deall egwyddorion dulliau gweithio’n ddiogel gyda bioberyglon
Cynnwys
1) Ffynonellau cyfryngau biolegol
2) Deddfwriaeth berthnasol a Pholisïau’r Brifysgol
3) Asesiadau COSHH
4) Asesiad risg ar gyfer creu neu ddefnyddio organebau a addaswyd yn enetig
5) Arferion gweithio diogel
6) Storio, cludo a chael gwared ar gyfryngau peryglus
7) Cadw golwg ar iechyd
Hyd
1 diwrnod
Dulliau Dysgu
Tiwtorial, sesiwn holi ac ateb, teithiau labordy.
Asesu
Nid yw'r cwrs wedi'i asesu.
Dyddiadau’r Cwrs
I drefnu cwrs i'ch Coleg / Adran neu i fynd ar gwrs cysylltwch â ni ar 3847 neu anfonwch neges e-bost atom iechydadiogelwch@bangor.ac.uk