Ymgysylltu
Datganiad Ymgysylltu
Er bod Prifysgol Bangor yn uniongyrchol gyfrifol am lawer o effeithiau ei gweithrediadau, mae'n dibynnu ar ei chymuned o fyfyrwyr a staff i gyfrannu'n sylweddol at addasu ei heffeithiau cyffredinol trwy gamau gweithredu personol a grŵp.
Mae'r Brifysgol yn annog ei myfyrwyr a'i staff i wneud newidiadau ymddygiad cynaliadwy hirhoedlog a phellgyrhaeddol nid yn unig i'w galluogi i wneud gwelliannau cynaliadwy parhaus i weithrediadau ac arferion sefydliadol, ond hefyd i alluogi'r myfyrwyr a'r staff hynny i gymryd eu hymddygiad newydd i mewn i bob maes o'u bywydau yn y Brifysgol a'r tu allan iddi.
- Ymgysylltu â Myfyrwyr a Staff y Strategaeth Gynaliadwyedd
- UM - Prosiectau Cymunedol Cynaliadwy Lleol
- Ceir manylion am ymgyrchoedd staff a myfyrwyr presennol a blaenorol yma
Mae'r Brifysgol yn cefnogi ac yn ariannu prosiectau cynaliadwyedd a arweinir gan staff a myfyrwyr trwy nifer o gyllidebau.
Ymgyrch Cynaladwyedd 25 erbyn 25
Lansiwyd yr ymgyrch gynaliadwyedd staff a myfyrwyr 25 erbyn 25, ym mis Tachwedd 2022, a’i nod yw lleihau 25% o allyriadau carbon erbyn 2025. Yn dilyn lansio’r ymgyrch cynaliadwyedd 25 erbyn 25, gwahoddwyd cydweithwyr i gyflwyno syniadau a mentrau ar sut y gallai’r Brifysgol leihau ei hôl troed carbon.
Aseswyd 40 o gynigion gan banel o arbenigwyr a'u cyflwynwyd yn ystod cinio anffurfiol gyda'r Is-ganghellor yr Athro Edmund Burke. Ymhlith y cynigion llwyddiannus i dderbyn cyllid gan y Brifysgol mae cynllun arbrofol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf o ran synwyryddion gofod sydd â'r nod o ddeall defnydd amser real yn well, yn ogystal ag amodau atmosfferig a'r defnydd o ynni. Cynlluniau eraill llwyddiannus oedd project ymchwil gan yr Ysgol Busnes i ymchwilio a ddylai'r Brifysgol newid i borwr carbon-negyddol (yn lle Google), a chael storfa feiciau cwbl ddiogel ar y campws. At hyn, cynigiwyd rhoi gostyngiadau ar ddiodydd poeth pan fydd myfyrwyr/cydweithwyr yn defnyddio eu mygiau eu hunain, ac i gyd-fynd â'r fenter hon mae cyllid wedi'i roi i’r fenter 25 wrth 25 i brynu mygiau teithio amldro ecogyfeillgar.
Diweddariad ar y Cynigion
Ymchwilio'r posibilrwydd o newid peiriant chwilio Prifysgol i un carbon negatif - Cynhaliwyd prosiect ymchwil gan Dr Edward Jones a Cem Soner, o Ysgol Busnes Bangor a edrychodd ar nodweddion amgylcheddol a pherfformiad gwahanol beiriannau chwilio. Mae copi o'u hadroddiad terfynol i'w weld yma.
Ymwybyddiaeth a Chyfathrebu Amgylcheddol
Rydym wedi datblygu System Rheoli Amgylcheddol (EMS) i gefnogi ein hymrwymiad i gyflawni gwelliant amgylcheddol parhaus. Mae'r EMS wedi'i ardystio i safon amgylcheddol fawreddog ISO14001:2015. Mae Tîm Perfformiad Amgylcheddol Campws wedi'i sefydlu i sicrhau cymaint o ymgysylltu a chynhwysiant â phosibl.
- System Rheoli Amgylcheddol
- Ymwybyddiaeth a Chyfathrebu Amgylcheddol
- Adroddiadau Blynyddol yr Amgylchedd
- Targedau ac Amcanion Amgylcheddol - gan gynnwys Ymgysylltu
Wythnos Groeso - Myfyrwyr
Bydd pob myfyriwr yn mynychu'r cymhellion iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gorfodol pan fyddant yn cychwyn yn y Brifysgol. Yn ogystal, rydym wedi cynhyrchu'r fideo canlynol i egluro ymhellach am y gwaith cynaliadwyedd a'r amgylchedd a wnawn a sut y gallwch ein helpu.
Sesiwn Cynefino - Staff Newydd
Rydym yn hynod falch o’n hamgylchedd ac ym Mhrifysgol Bangor, rydym wedi ymroi’n i’w amddiffyn a’i wella. Mae hyn yn golygu ein bod yn ystyried yr effaith y gall popeth yr ydym yn ei wneud ei gael, ac o safbwynt amgylcheddol, yn ystyried a allwn wneud rhywbeth yn well. Gydag ystâd o dros 100 o adeiladau wedi eu lleoli ar draws 346 hectar, yn ogystal ag oddeutu 10,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff, rydyn ni’n cydnabod oblygiadau ein heffaith ar yr amgylchedd.
Bydd yr holl staff newydd naill ai'n mynychu'r sesiwn cynefino iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gorfodol yn bersonol neu'n cwblhau'r fersiwn ar-lein. Mae'r ddolen isod yn manylu ar ein Llawlyfr Staff a manylion ar ddeunydd y sesiwn.
- Llawlyfr Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd Staff a Sesiwn Cynefino
- Sesiwn Cynefino Cynaliadwyedd Staff a'r Amgylchedd
Gwybodaeth a Digwyddiadau Cynaliadwyedd o'r Brifysgol
Tachwedd 2024
Meithrin gweithlu dwyieithog: Digwyddiad undydd i gyflogwyr - Tachwedd 29
Mwy na iaith: Cipolwg ar ddyfodol y Gymraeg - Tachwedd 13
Noson yng Nghwmni Cheryl Foster a Noel Mooney - Tachwedd 8
Syr Bryn Terfel a Gwesteion Arbennig - Tachwedd 1
Prifysgol Bangor yn dewis Ecosia’n beiriant chwilio diofyn er mwyn cefnogi arferion cynaliadwy
Hydref 2024
Darlith Flynyddol yr Archifdy 2024 gan Yr Athro Terence Dooley - Hydref 30
Economegydd gofal cymdeithasol o Brifysgol Bangor yn derbyn Cymrodoriaeth Uwch o fri
Cronfa Gymunedol Bangor yn cefnogi uwchgynhadledd cynaliadwyedd Yr Wyddfa
Cartref y Chwedlau - Hydref 23
Y Coleg ar y Bryn: 140 mlynedd o hanes Prifysgol Bangor - Hydref 19
Morwellt ac wystrys: Perthynas gymhleth mewn byd sy'n newid
Linguistic diversity in Europe: why, where and how? - Hydref 9
Cynhadledd Archif Menywod Cymru 2024 - Hydref 5
Tuag at ddyfodol cynaliadwy i ogledd Cymru a’i chymunedau - Hydref 3
Difodiant ac Esblygiad: Astudiaeth arloesol yn adolygu gwreiddiau bioamrywiaeth
Medi 2024
Ancient DNA helped us uncover the Iberian lynx’s potential secret weapon against extinction
Prifysgol Bangor yn ennill cyllid i wneud ymchwil rhyngddisgyblaethol ar ecosystemau’r môr
Gardd Fotaneg Treborth yn ennill grant gan y cynllun Grant Buddsoddi mewn Coetir
Dr Salamatu Jidda-Fada, Learning to Contribute to Society: Insights from Wales and Nigeria - Medi 18
Prifysgol Bangor â Verily yn bartneriaid i ehangu gwasanaethau profi dŵr gwastraff ledled Ewrop
Myfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyngor cyfreithiol AM DDIM i'r cyhoedd
OR66 - The Operational Research Society's Annual Conference - Medi 10
Awst 2024
Michael Mosley’s final series: how we showed what happens to your body when you’re stressed
Coedwigoedd aeddfed yn hanfodol ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd
Cyllid wedi'i gymeradwyo ar gyfer cyfleusterau biotechnoleg amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor
Newid Eryri - Changing Eryri - Awst 8
The International Conference on Mindfulness 2024 - Awst 2
Syr Bryn Terfel a chyfeillion i berfformio fel rhan o ddathliadau 140 Prifysgol Bangor