Nodau Dablygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig
Mae'r drafodaeth ynghylch rôl Prifysgolion wrth gyfrannu at fandad Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) 2030 y Cenhedloedd Unedig (Cenhedloedd Unedig) yn dwysáu. Mae'n annhebygol y caiff y nodau byd-eang eu cyrraedd heb gyfraniad gan y sector addysg - yn enwedig sector y Brifysgol. Mae hyn yn amlwg mewn perthynas â'r pedwerydd SDG, sy'n gofyn am “addysg gynhwysol a theg, o ansawdd, a chyfleoedd gydol oes i bawb”. Mae cipolwg ar y rhestr o 17 SDG yn dangos y bydd cyfraniad y Prifysgolion yn hanfodol i gyflawni nodau e.e. Nod 9: Diwydiant, is-adeliadedd ac arloesi; Nod 12: Cynhyrchu a bwyta'n gyfrifol; a Nod 13: Gweithredu Hinsawdd, i enwi ond tri. Ond mae gennym fel Prifysgol gyfraniad i'w wneud i'r holl nodau:
Ein tasg yw dogfennu'n ffurfiol sut mae ein gweithgareddau'n cyfrannu at rai o'r nodau neu nhw’i gyd.
- Rhoi diwedd ar dlodi o bob math ym mhobman.
- Rhoi diwedd ar newyn, sicrhau diogelwch bwyd a gwell maeth a hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy.
- Sicrhau bywydau iach a hyrwyddo llesiant ar gyfer pob oedran.
- Sicrhau addysg gynhwysol a theg, o ansawdd, a hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb.
- Cyflawni cydraddoldeb rhywiol a grymuso pob menyw a merch.
- Sicrhau fod dŵr ar gael i bawb, ei fod yn cael ei reoli’n gynaliadwy a bod glanweithdra i bawb.
- Sicrhau mynediad at ynni fforddiadwy, dibynadwy, cynaliadwy a modern i bawb.
- Hyrwyddo twf economaidd parhaus, cynhwysol a chynaliadwy. Cyflogaeth lawn a chynhyrchiol a gwaith deche i bawb.
- Adeiladu is-adeiladedd cydnerth, hyrwyddo diwydiannu cynhwysol a chynaliadwy a meithrin arloesedd.
- Lleihau anghydraddoldeb o fewn ac ymhlith gwledydd.
- Gwneud dinasoedd ac aneddiadau lle mae pobl yn byw yn lefydd cynhwysol, diogel, gwydna chynaliadwy.
- Sicrhau ein bod yn defnyddio adnoddau a chynhyrchu yn gynaliadwy.
- Cymryd camau ar frys i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a'i effeithiau.
- Gwarchod a defnyddio'r cefnforoedd, y moroedd a'r adnoddau morol yn gynaliadwy ar gyfer datblygu cynaliadwy.
- Amddiffyn, adfer a hyrwyddo defnydd cynaliadwy o ecosystemau daearol, rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, brwydro yn erbyn anialwch, ac atal a gwrthdroi dirywiad tir a rhwystro colli bioamrywiaeth.
- Hyrwyddo cymdeithasau heddychlon a chynhwysol ar gyfer datblygu cynaliadwy, darparu mynediad at gyfiawnder i bawb ac adeiladu sefydliadau effeithiol, atebol a chynhwysol ar bob lefel.
- Cryfhau'r dulliau o weithredu ac adfywio'r bartneriaeth fyd-eang ar gyfer datblygu cynaliadwy.