Image of Yr Wyddfa landscape

Cronfa Gymunedol Bangor yn cefnogi uwchgynhadledd cynaliadwyedd Yr Wyddfa

Cynhaliom astudiaeth gychwynnol i geisio nodi prif sbardunwyr ymddygiad taflu sbwriel. Gallem dybio mai mater o gymhelliant ydyw: does dim ots gan bobl, ond mewn gwirionedd un o鈥檙 ffactorau pwysicaf oedd nad oedd rhai ymwelwyr wir yn gwerthfawrogi'r hyn a ddisgwylid ganddynt yn y parc. Nid oeddent wedi cynllunio ymlaen llaw鈥檔 ddigonol at eu hymweliad, megis dod 芒 bag gwastraff i fynd 芒鈥檜 sbwriel adref. Nod pennaf yr ymchwil yw canfod ffyrdd o greu ymdeimlad cryfach o gyfrifoldeb personol yn y parc cenedlaethol fel bod ymwelwyr yn gofalu amdanynt eu hunain ac eraill 鈥 heb adael 鈥榙im o鈥檜 h么l鈥 a hyd yn oed casglu sbwriel mae eraill wedi鈥檌 daflu.

Yr Athro John Parkinson

Arweiniodd y canfyddiadau at ddylunio astudiaeth newid ymddygiad, lle bu myfyrwyr-ymchwilwyr yn siarad 芒 cherddwyr wrth odrau鈥檙 Wyddfa. Cafodd sgript ei datblygu鈥檔 ofalus i鈥檙 myfyrwyr yngl欧n ag ymddygiad. Y nod oedd hybu cymhelliant cynhenid a hyrwyddo gweithredoedd amgylcheddol gyfrifol ymhlith cerddwyr ar Yr Wyddfa. Roedd y canlyniadau cynnar yn addawol iawn, ac roedd tystiolaeth yn awgrymu y bu newid cadarnhaol mewn agweddau ac ymddygiad. Mae'r ymchwil llawn wrthi鈥檔 cael ei baratoi i'w gyhoeddi'n academaidd.

Penllanw鈥檙 holl waith oedd uwchgynhadledd gyntaf COPA1 Eryri ar Yr Wyddfa lle bu timau o blant o鈥檙 ysgolion uwchradd lleol yn datblygu projectau i fynd i鈥檙 afael 芒 phlastigau a gwastraff plastig. Cafodd y digwyddiad gefnogaeth gan unigolion o broffil uchel a ffigurau cymunedol, gan gynnwys y gantores a bardd y plant, Casi Wyn, Owen Derbyshire, Pennaeth Cadw Cymru鈥檔 Daclus, a Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.

Gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol Prifysgol Bangor, rhoddodd y digwyddiad lwyfan i ddisgyblion ysgol weithio ochr yn ochr 芒 hwyluswyr arbenigol, i fireinio eu syniadau a鈥檜 cyflwyno gerbron panel o feirniaid. Ar 么l y digwyddiad, aethant i gopa鈥檙 Wyddfa ar y Tr锚n Bach enwog.

Dywedodd yr Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, 鈥淒im ond megis dechrau mae llwyddiant uwchgynhadledd COPA1 Eryri. Mae鈥檙 gwaith yn parhau ac mae鈥檔 cynrychioli鈥檙 ffordd y mae Prifysgol Bangor, fel un o鈥檙 100 prifysgol orau yn y byd am gynaliadwyedd, yn cael effaith yn y gymuned.鈥

Dywedodd Alec Young, Swyddog Yr Wyddfa Ddi-blastig, 鈥淩ydym yn gweld momentwm gwirioneddol yn ymdrechion y gymuned i leihau gwastraff plastig, ond dim ond megis dechrau y mae. Trwy addysg, ymchwil a chydweithio, rydym yn gosod llwyfan i newid parhaol."

Ein cyrsiau seicoleg

Darllen mwy am ein cyrsiau seicoleg: