Mae’r cyfleuster, a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn cael ei ddatblygu drwy gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor, Adra a Busnes@LlandrilloMenai, a chaiff ei adeiladu ar y safle yn Nhŷ Gwyrddfai gan Enbloc.
Mae partneriaid yn awyddus i gydweithio ar brojectau ymchwil gyda chwmnïau mawr a busnesau bach a chanolig i brofi eu cynnyrch mewn amgylchedd rheoledig deuol.
Bydd y cyfleuster yn creu ac yn cynnal dau gyflwr thermol ac amgylcheddol gwahanol ar yr un pryd, gan efelychu amgylcheddau mewnol ac allanol a gaiff eu rhannu gan 'Wal Brawf'. Mae'r ochr 'Byw' wedi'i chynllunio i atgynhyrchu lefelau goleuo a thymheredd cartref cyfforddus, tra bo’r ochr allanol yn dynwared tri chyflwr penodol - rhewi, oer a phoeth - lle mae rheolaeth lleithder yn effeithio ar y defnydd o'r system ddŵr.
Dywedodd yr Athro Graham Ormondroyd o Ganolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor, sy'n arbenigo mewn ymchwil i ddewisiadau’n seiliedig ar ddeunydd biolegol yn lle deunyddiau synthetig, “Mae’r cyfleuster newydd yn Nhŷ Gwyrddfai yn gam mor gyffrous ymlaen. Bydd yn galluogi profi deunyddiau adeiladu newydd mewn amgylcheddau wedi’u creu â waliau llawn, ar raddfa sy’n cyfateb i dai ar raddfa lawn, sy’n gam mawr ymlaen i ni o ran gallu ymchwil.
“Bydd y cyfleuster hwn yn caniatáu i ni brofi deunyddiau ar raddfa, a’r rhyngweithio rhwng amodau dan do ac awyr agored, gan gynnwys efelychu cawodydd glaw. Bydd hyn yn galluogi Prifysgol Bangor i astudio sut y bydd yr amgylchedd newidiol yn effeithio ar y stoc dai bresennol a deunyddiau adeiladu yn y dyfodol.
“Bydd y cyfleuster hefyd yn cael ei ddefnyddio i werthuso effeithiau manylion megis ffenestri a siliau ar ffasadau adeiladau, a gallu’r manylion hyn i ostwng biliau ynni ac amddiffyn deunyddiau yn y dyfodol.”
Yn y tymor hwy, mae tîm Prifysgol Bangor yn gobeithio cynnal projectau ymchwil i effeithiau newid hinsawdd ar gyfansoddiad waliau cyfan, gan ddefnyddio rhagfynegiadau newid hinsawdd lleol sydd ar gael trwy'r Swyddfa Dywydd i efelychu patrymau tywydd y dyfodol.
“Profir effeithiau’r newidiadau hyn yn yr hinsawdd ar ddeunyddiau newydd, yn aml yn seiliedig ar ddeunydd biolegol, a ddefnyddir mewn dulliau adeiladu modern, gan arwain at ymchwil pellach i’r amddiffyniad y bydd ei angen ar y deunyddiau hyn yn hinsoddau’r dyfodol,” ychwanega Graham.
Meddai’r Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Bangor, “Rydym yn falch iawn o fod yn symud ymlaen i'r cam nesaf yn ein partneriaeth ag Adra a Busnes@LlandrilloMenai yn Nhŷ Gwyrddfai. Bydd y posibiliadau ymchwil a gynigir gan y cyfleuster hwn yn ein galluogi i weithio ar y cyd â diwydiant i ddeall yn well sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y sector adeiladu a'r cynhyrchion y maent yn eu defnyddio. Mae potensial sylweddol hefyd i astudio sut mae tymheredd a lleithder cynyddol yn effeithio ar iechyd a sut y gellir defnyddio mesurau i wella tai presennol i gefnogi cynhyrchu pŵer lleol, gwella mynediad i’r rhyngrwyd a darparu cefnogaeth gofal cymdeithasol ychwanegol.”
Ychwanegodd Rhianwen Edwards, Cyfarwyddwr Dysgu Seiliedig ar Waith a Masnachol, “Mae Busnes@LlandrilloMenai yn falch o fod yn rhan o’r project arloesol hwn yn Nhŷ Gwyrddfai. Mae’r cyfleuster hwn yn gyfle unigryw i’n myfyrwyr a’n staff ymwneud ag ymchwil flaengar a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddyfodol byw’n gynaliadwy yng Nghymru. Drwy gydweithio’n agos ag arweinwyr diwydiant a phartneriaid academaidd, mae’r bartneriaeth hon yn meithrin arloesedd sydd nid yn unig yn hyrwyddo’r agenda datgarboneiddio, ond sydd hefyd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i’n dysgwyr a’n busnesau i ysgogi newid cadarnhaol yn eu cymunedau.”
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr, Adra: “Dyma ddarn arwyddocaol arall o’r jig-so yn natblygiad Tŷ Gwyrddfai. “Mae’r cyfleuster blaenllaw yn prysur adeiladu enw da fel canolfan ragoriaeth. Dyma’r ganolfan ddatgarboneiddio gyntaf o’i math yn y Deyrnas Unedig a bydd yn arwain y sector ym maes hyfforddi ac arloesi – a fydd yn newid mawr i gymunedau lleol wrth inni fwrw ymlaen â’n rhaglen ddatgarboneiddio.
“Bydd yr ymchwil a’r cynlluniau arloesol sy’n cael eu profi yn y labordy yn cyfrannu’n sylweddol at leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi, a fydd yn ei dro yn lleihau effaith costau tanwydd ac ynni cynyddol trwy wneud ein cartrefi’n fwy ynni-effeithlon a gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid”.