Mae iaith yn un o'r nodweddion sy'n gosod y ddynoliaeth ar wahân i rywogaethau eraill y Ddaear, a lle bynnag y mae bodau dynol, y mae iaith. Mae'r ffaith honno’n peri bod lefel hynod o amrywiaeth, ac mae dros saith mil o ieithoedd yn cael eu siarad ledled y byd heddiw. O ystyried bod llai na 200 o wledydd yn y byd, cawn syniad pa mor amrywiol yw’r blaned yn ieithyddol, a pha mor gyfeiliornus y gall y syniad o “un wlad un iaith” fod.
Nid mewn gwledydd pell yn unig y ceir amrywiaeth ieithyddol: mae bron i 300 o ieithoedd brodorol yn Ewrop, er na ŵyr y mwyafrif am yr ieithoedd hynny, a lleihau mae’r niferoedd sy’n siarad nifer ohonynt. Yn wir, yn ôl Atlas Ieithoedd y Byd UNESCO, mae cymaint â 70% o ieithoedd y byd mewn perygl, rhai’n ddifrifol neu'n gritigol.
Yn y ddarlith hon rydym yn archwilio rhai o’r materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth ieithyddol, ei nodweddion, a’r grymoedd sy’n bygwth ei goroesiad. Byddwn yn ymdrin â nifer o gwestiynau craidd a’u goblygiadau: A yw amrywiaeth ieithyddol yn beth da ac – os ydyw – pam? Ble rydyn ni'n dod o hyd i amrywiaeth ieithyddol, a sut olwg sydd arno yn Ewrop fodern? Ac yn olaf: Ym mha fodd y mae amrywiaeth ieithyddol o dan fygythiad, ac a oes modd gwneud rhywbeth i’w harbed?
Marco Tamburelli, athro Ieithyddiaeth, yw pennaeth y Tîm Ymchwil Agweddau Ieithyddol ym Mhrifysgol Bangor a chyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Rhyngwladol ar Ieithoedd dadleuol eu Statws. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd, o safbwynt cynrychiolaeth ac o safbwynt sosioieithyddol a chymharol.
Mae ei waith presennol yn canolbwyntio ar gymhwyso a datblygu dulliau meintiol i ymchwilio i agweddau sosioieithyddol, cymdeithasol-seicolegol a chymharol ar ddwyieithrwydd, yn enwedig mewn perthynas ag ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol, mesur agweddau ieithyddol mewn cymunedau dwyieithog, a mesur pellter strwythurol a chyfraddau dealladwyedd mewn continwa ieithyddol.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.