Agorodd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ar 18 Hydref, 1884. Gyda’r digwyddiad hwn gwireddwyd gobeithion a dyheadau llawer ers dyddiau Owain Glyndŵr am Brifysgol yng ngogledd Cymru. Gyda phum deg wyth o fyfyrwyr, dyma ddechrau'r daith i un o sefydliadau pwysig yr ardal. Heddiw, mae ymhell dros 11,000 o fyfyrwyr yma o bob cwr o’r byd yn elwa o’r traddodiad Cymreig cryf sy’n credu yng ngwerth addysg i bawb.
Yn yr arddangosfa hon cawn gipolwg ar hanes cyfoethog y Brifysgol am y 140 mlynedd ddiwethaf. O'r nifer fawr o ddeunyddiau sydd gan Archifau'r Brifysgol ei hun, cafwyd detholiad o enghreifftiau cynrychioliadol, ac sy’n dwyn atgofion i’r cof, i ddarlunio bywyd a gwaith myfyrwyr a staff ddoe a heddiw.
Ìý