Mae myfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyngor cyfreithiol cyfrinachol a phroffesiynol am ddim i'r cyhoedd trwy Glinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor, sydd newydd ei sefydlu. Mae'r gwasanaeth, sydd ar gael yn ystod y tymor, yn cynnig cymorth cyfreithiol hygyrch i'r gymuned ac yn rhoi profiad ymarferol defnyddiol dros ben i鈥檙 myfyrwyr.
Dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys ac uwch ddarlithwyr profiadol, bydd y clinig yn cynnig gwasanaeth dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cynlluniwyd y gwasanaeth i ddarparu cyngor o ansawdd uchel, gyda'r holl argymhellion yn cael eu hadolygu'n drylwyr gan oruchwylwyr arbenigol cyn eu cyflwyno i鈥檙 cleientiaid.
Bydd y clinig yn dilyn proses strwythuredig i sicrhau y rhoddir cyngor cywir ac ystyriol i鈥檙 cleientiaid. Yn ystod y cyfarfod cyntaf, bydd myfyrwyr yn gwrando ar y cleientiaid ac yn casglu'r holl wybodaeth angenrheidiol. Yna byddant yn gwneud ymchwil trylwyr i ddarparu arweiniad pwrpasol a phenodol. Cyn pen 14 diwrnod, bydd y cleientiaid yn cael llythyr gyda chyngor manwl, yn cynnig atebion ymarferol i'w pryderon cyfreithiol. Gan fod y clinig yn gweithredu fel gwasanaeth 'llythyr cyngor yn unig', ni fydd yn ymdrin 芒 gwaith achos, yn cysylltu 芒 thrydydd parti, nac yn cynrychioli cleientiaid yn y llys.
Bydd y clinig yn gallu rhoi cyngor ar amrywiaeth eang o faterion sifil, gan gynnwys materion teuluol, cyflogaeth, tai a phroblemau gyda nwyddau a gwasanaethau. Ni fydd y clinig yn cynnig unrhyw gyngor ar gyfraith droseddol, mewnfudo na budd-daliadau lles.
Meddai Tracey Horton, cyfreithiwr a chyfarwyddwr y clinig, 鈥淢ae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn gyfle gwych i鈥檔 myfyrwyr ac i鈥檙 gymuned. Mae'n caniat谩u i'n myfyrwyr gael profiad ymarferol a rhoi cymorth cyfreithiol defnyddiol i bobl mewn angen ar yr un pryd. Mae mynediad at gyfiawnder yn broblem enfawr ledled y Deyrnas Unedig ac yn enwedig yng ngogledd Cymru. Ein nod yw cydweithio 芒鈥檙 gwasanaethau sy鈥檔 bodoli eisoes yn yr ardal (gan gynnwys cyfreithwyr a sefydliadau trydydd sector) i helpu i lenwi鈥檙 bwlch hwn. Rydym yn annog unrhyw un sydd 芒 phryderon cyfraith sifil i ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn, sy鈥檔 rhad ac am ddim.鈥
Meddai鈥檙 Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor Ymgysylltu Dinesig, 鈥淢ae鈥檙 Clinig Cyngor Cyfreithiol yn ychwanegiad ardderchog at ddarpariaeth y gyfraith, sydd eisoes yn rhagorol ym Mhrifysgol Bangor. Mae鈥檔 rhoi profiad amhrisiadwy o鈥檙 byd go iawn i鈥檔 myfyrwyr wrth iddynt ystyried gyrfa yn y gyfraith, ac mae hefyd yn cynnig cefnogaeth werth chweil i鈥檙 gymuned leol. Mae'r fenter hon yn cyfoethogi dysgu鈥檙 myfyrwyr ond mae ganddi hefyd y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau'r clinig."
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad e-bostiwch bulac@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388411.