Meithrin gweithlu dwyieithog: Digwyddiad undydd i gyflogwyr
Lansiad adnodd arloesol a chynhadledd sydd wedi ei dargedau at gyflogwyr sy’n dymuno recriwtio siaradwyr dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) i’w gweithlu.
Mae’r digwyddiad hwn am ddim, ac yn cael ei drefnu fel rhan o gynllun y Gronfa Her, Arfor.
Bydd rhaglen y dydd yn cynnwys cyflwyniad i’r Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog - adnodd arloesol a luniwyd i gefnogi sefydliadau i recriwtio staff â sgiliau Cymraeg. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys Twlcit Arfer Da, sy'n cynnig arweiniad ymarferol i gyflogwyr wrth recriwtio staff gyda sgiliau yn yr iaith Gymraeg a Theipoleg Penderfyniadau Mudo Siaradwyr Cymraeg, sy’n cynorthwyo cyflogwyr i adnabod eu cynulleidfa darged wrth geisio denu staff sy'n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg.
Bydd sgyrsiau panel hefyd yn rhan o'r rhaglen, gyda chyflogwyr a phobl ifanc yn rhannu eu profiadau ac arfer da mewn ymateb i heriau recriwtio gweithlu dwyieithog. Yn ogystal, bydd panelwyr o Gymru a Gwlad y Basg yn cymryd rhan, gan rannu eu harbenigedd o weithio ym maes recriwtio staff mewn cymunedau ieithoedd lleiafrifol.
Darperir cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.
Dyma eich cyfle i glywed am arfer da gan ymarferwyr ac arbenigwyr a fydd yn eich cynorthwyo i recriwtio staff sydd â sgiliau iaith Gymraeg.
Ìý
Ìý