Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi partneriaeth unigryw gyda Verily, cwmni technoleg iechyd sy’n arfer trachywiredd, i ehangu ei rhaglen gwyliadwriaeth dŵr gwastraff i'r Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Bydd y cydweithredu rhyngddynt yn dyrchafu galluoedd y brifysgol a’i rhaglen gwyliadwriaeth iechyd cyhoeddus sy’n seiliedig ar ddŵr gwastraff a’i phrif labordy profion. Mae gallu Prifysgol Bangor i fonitro dŵr gwastraff yn arwain y farchnad yn y Deyrnas Unedig lle mae bio-wyliadwriaeth amgylcheddol yn y cwestiwn a labordy'r brifysgol fel un o’r canolfannau ymchwil a datblygu ar gyfer Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (UKHSA) a Llywodraeth Cymru.
Bydd labordy Prifysgol Bangor, o dan arweiniad Davey Jones, Ph.D, Athro nodedig yng Ngwyddorau’r Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd a Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol ym Mhrifysgol Bangor yn mabwysiadu’r uwch dechnoleg sydd gan Verily i brofi dŵr gwastraff er mwyn cynnig data iechyd cyhoeddus o safon uchel, sy'n hanfodol ar gyfer tracio trosglwyddiad firysau a hybu ymdrechion ymchwil a datblygu ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat. Trwy’r cydweithredu hwn, bydd y labordy’n ymestyn ei wasanaeth profi i amrywiol bathogenau dynol, gan gynnwys Norofeirws, firysau’r ffliw, MPXV, SARS-CoV-2, bacteria y mae ganddynt ymwrthedd gwrthficrobaidd, a ffyngau. Bydd y labordy hefyd yn cyflymu datblygiad galluoedd newydd, gan gynnwys profion amgylcheddol. Bydd yr Athro Jones a'i dîm yn parhau i arwain gwaith labordy Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Verily.
Ers ei sefydlu yn 2020, yn sgil pandemig COVID-19, daeth labordy dŵr gwastraff Prifysgol Bangor yn flaenllaw ym maes bio-wyliadwriaeth amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig. Trwy ddefnyddio dulliau awtomataidd labordy dŵr gwastraff Verily sydd o'r radd flaenaf, a’i thrwybwn uchel i sicrhau effeithlonrwydd, bydd Prifysgol Bangor yn ei sefydlu ei hun ymhellach fel cyfleuster gwyliadwriaeth dŵr gwastraff gyda’r gorau a all wasanaethu holl ranbarthau’r Deyrnas Unedig ac Ewrop yn eang, a chyflawni anghenion cyfredol iechyd y cyhoedd a’r anghenion at y dyfodol.
“Mae ein partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor yn ddatblygiad cyffrous yng nghenhadaeth Verily i sefydlu rhwydwaith rhyngwladol i fonitro pathogenau ac ehangu ein galluoedd i Ewrop,” meddai Andrew Trister, MD, PhD, Prif Swyddog Meddygol a Gwyddonol Verily. “Mae'r cydweithredu rhyngom yn fodd i’r arbenigedd cyfun sydd gennym i gyflawni profion yn gyflymach a monitro targedau pathogenau newydd sy'n amddiffyn iechyd y cyhoedd ac yn meithrin cymunedau diogelach ac iachach ledled y byd.”
“Bydd atebion dŵr gwastraff a chronfa ddata pathogenau estynedig Verily’n cynyddu ein gallu i fonitro ac ymateb i fygythiadau i iechyd y cyhoedd yn effeithiol,” meddai'r Athro Davey Jones. “Gyda’n gilydd, rydym yn integreiddio gwyddoniaeth o safon fyd-eang â thechnoleg uwch i ddarparu data iechyd cyhoeddus hanfodol i’r Deyrnas Unedig a thu hwnt.”
Fel arweinydd yng ngwyddoniaeth y labordy sy’n sail i epidemioleg dŵr gwastraff, mae rhaglen dŵr gwastraff Verily’n cynnig logisteg a gwyliadwriaeth i brofi am bathogenau mewn dŵr gwastraff, a’u monitro a’u canfod yn amserol er mwyn sicrhau camau gweithredu cyflymach a mwy union ym maes iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd mae Verily’n cydweithio â sefydliadau iechyd cyhoeddus blaenllaw yn yr U.D., gan gynnwys y Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau (CDC), a WastewaterSCAN, i ddarparu gwasanaethau profi dŵr gwastraff i dracio presenoldeb dros 15 o bathogenau, gan gynnwys SARS-CoV-2, y Ffliw ac is-fath H5, ac MPXV (firws brech y mwnci gynt) mewn samplau dŵr gwastraff o gannoedd o safleoedd ledled yr Unol Daleithiau.
Mae'r bartneriaeth newydd yn arwydd o ddyfodiad Verily i'r farchnad Ewropeaidd ac mae’n atgyfnerthu eu hymrwymiad i wyliadwriaeth iechyd cyhoeddus byd-eang. Ar hyn o bryd, mae Verily a Phrifysgol Bangor yn gweithio i berswadio cwsmeriaid, gan gynnwys llywodraethau a chwmnïau gwyddorau bywyd, ynglŷn â phrofi dŵr gwastraff ac esgor ar ddealltwriaeth unigryw o ddata dŵr gwastraff.