Cynhyrchwyd dros 320,000 tunnell o ffibrau bio-seiliedig a bioddiraddadwy yn fyd-eang yn 2022 ac mae ymchwil yn dangos y bydd meintiau sylweddol o hynny yn yr amgylchedd yn y pen draw. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o'u heffeithiau ecolegol wedi bod yn brin. Mae ein hastudiaeth wedi dangos bod ffibrau bio-seiliedig yn cael ystod o effeithiau andwyol ar bryfed genwair - anifeiliaid sy'n hanfodol i weithrediad yr amgylchedd. Mae鈥檔 tynnu sylw at bwysigrwydd casglu tystiolaeth bellach cyn bod dewisiadau amgen i blastig confensiynol ar gael yn ehangach.
Mae鈥檙 astudiaeth newydd yn dilyn ymchwil a gyhoeddwyd yn gynharach yn 2024 a dynnodd sylw at y ffaith bod dod i gysylltiad 芒鈥檙 deunyddiau a ddefnyddir mewn bagiau te bioddiraddadwy yn gallu arwain at hyd at 15% yn fwy o farwolaethau o blith poblogaethau pryfed genwair, ac yn cael effaith andwyol ar atgenhedlu ymhlith y pryfed genwair.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth ychydig wythnosau'n unig cyn i'r Cenhedloedd Unedig ymgynnull arweinwyr y byd yn Busan, De Corea, ar gyfer y rownd olaf y trafodaethau yngl欧n 芒 chytundeb plastigau byd-eang posib.
Bydd yr Athro Richard Thompson OBE FRS, uwch awdur ar yr astudiaeth newydd a Phennaeth Uned Ymchwil Sbwriel Morol Rhyngwladol Prifysgol Plymouth, yn y trafodaethau hynny ynghyd 芒 llunwyr polisi, gwyddonwyr a chynrychiolwyr eraill o bob rhan o'r byd. Meddai: 鈥淢ae鈥檔 amlwg, ynghyd ag ailgylchu ac ailddefnyddio, bod mynd i鈥檙 afael 芒 llygredd plastig yn gofyn am leihau faint o blastigau sy鈥檔 cael eu defnyddio a鈥檜 cynhyrchu. Mae diddordeb cynyddol mewn deunyddiau amgen y gellid eu defnyddio yn lle plastig, ond mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn pwysleisio ymhellach bwysigrwydd profi cynhyrchion newydd mewn lleoliadau amgylcheddol perthnasol cyn eu mabwysiadu ar raddfa eang. Rwy鈥檔 credu鈥檔 gryf ei bod yn bosib mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argyfwng llygredd plastig, ond bydd tystiolaeth wyddonol annibynnol yn hollbwysig i鈥檔 helpu i osgoi canlyniadau anfwriadol wrth i ni chwilio am atebion.鈥