Y nod yw dod â miloedd o bobl ynghyd i fynd ar orymdaith yng nghanol Llundain ddydd Sadwrn, 26 Hydref, er mwyn tynnu sylw at yr angen am afonydd glân.
Prifysgol Bangor yw'r brifysgol gyntaf i ymuno â rhestr o gefnogwyr swyddogol y digwyddiad. Mae aelodau eraill clymblaid March for Clean Water yn cynnwys Surfers Against Sewage, Clean Water Sports Alliance, Rhwyfo Prydain, Canŵio Prydain, RSPB, Sefydliad y Merched, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, yr Ymddiriedolaeth Genweirio, Ymddiriedolaeth yr Afonydd, a The Soil Association.
Dywedodd yr Athro Christian Dunn o Brifysgol Bangor, “Roeddwn wrth fy modd pan ddaeth River Action ataf i weld a fyddem yn cefnogi'r orymdaith. “Gan fod hwn yn ddigwyddiad di-blaid wleidyddol, sydd ddim yn rhoi’r bai am gyflwr ein hafonydd ar un agwedd yn unig o gymdeithas, roedden ni’n fwy na pharod i gymryd rhan.
“Ym Mhrifysgol Bangor, mae ein hymchwil a’n haddysgu’n arwain y ffordd o ran monitro llygryddion amrywiol mewn dŵr ac, yn hollbwysig, yn darganfod ffyrdd o dynnu’r llygryddion hynny o’n hafonydd gan ddefnyddio prosesau naturiol, neu ddatrysiadau ar sail natur, megis cynefinoedd gwlyptir.
“Rydym yn bwriadu mynd â grŵp o fyfyrwyr a staff i lawr i’r orymdaith yn Llundain – gyda’r nod penodol o ddangos pa mor bwysig yw gwyddoniaeth wrth fynd i’r afael â’r broblem hon.”
Roedd y cyn-ganwr pync, Feargal Sharkey, sydd bellach yn ymgyrchydd iechyd afonydd, yn canmol Prifysgol Bangor am fod y brifysgol gyntaf i gefnogi’r symudiad March for Clean Water. “Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil gwych wrth ymchwilio i iechyd ein hafonydd a sut y gallwn eu gwella,” meddai Mr Sharkey. “Mae’n wych cael Prifysgol Bangor yn cefnogi’r orymdaith – mae’n glod i’r brifysgol fod ei staff a’i myfyrwyr mor rhagweithiol wrth geisio mynd i’r afael â’r argyfwng y mae ein hafonydd yn ei wynebu.”
I gael rhagor o wybodaeth am March for Clean Water, ewch i: .