Sesiynau Ymarfer Sgwrsio
Bydd sesiwn sgwrs bob wythnos yn eich helpu efo'r pethau yma:
- cofio geirfa a phatrymau trwy eu defnyddio mewn sgwrs;
- gwella sgiliau gwrando a deall;
- ennill hyder i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eich gwaith ac efo gwahanol bobl
Dyma sut bydd y sesiynau sgwrs yn gweithio:
- Sgwrs un-i-un hanner awr efo tiwtor bob yn ail wythnos ar amser cyfleus i chi
- Bob yn ail wythnos arall:
- Lefel 1-3 (Mynediad/Sylfaen): sgwrs hanner awr mewn pâr neu grŵp bach efo tiwtor yn helpu
- Lefel 4-5 (Canolradd): sgwrs hanner awr mewn parau neu grŵp bach efo staff ar yr un lefel
- Lefel 6-7 (Uwch/Gloywi): sgwrs 15-20 munud efo siaradwr Cymraeg neu grŵp bach efo staff ar yr un lefel
Cysylltwch efo Eirian i drefnu sesiynau sgwrs wythnosol. Nodwch eich lefel a’ch argaeledd.
Hyfforddiant Cymraeg i Staff
Adnoddau Defnyddiol
Geirda Staff
"Mae’r Dystysgrif Cymraeg Gwaith wedi datblygu fy sgiliau yn fawr iawn. Mae geiriau'r pwnc wedi datblygu a rwan mae gen i lot mwy o hyder i ddefnyddio Cymraeg yn y Gwaith efo cydweithwyr ac yn y gymuned hefyd. Eleni, ron i’n gallu gneud tipyn o ddysgu a chefnogi myfyrwyr. Roedd o’n werth chweil a llawer o hwyl."
Dr Ross Roberts,
Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer