Hyfforddiant Cymraeg i Staff
- Pecyn Hyfforddiant Staff
- Cyrsiau Cymraeg wythnosol
- Adnoddau hunan-addysgu
- Sesiynau ymarfer sgwrsio
- Tystysgrif Cymraeg Gwaith
Adnoddau Defnyddiol
Geirda Staff
“Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi pasio Tystysgrif Cymraeg Gwaith lefel 7! Mae’r lefelau yn gyfle i roi cynnig ar wahanol fathau o weithgareddau lle gallaf ddefnyddio fy Nghymraeg; er enghraifft, siarad â chydweithwyr, cyflwyno gwaith, darllen ac ysgrifennu, a chyfathrebu â’r cyhoedd.
Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn brofiad anhygoel a chadarnhaol i mi. Erbyn hyn, rydw i’n teimlo’n hyderus i ddarlithio ac ymchwilio trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r tiwtoriaid!”
Dr Eirini Sanoudaki,
Uwch Ddarlithydd mewn Caffael Iaith
Cyrsiau Cymraeg wythnosol
Cyrsiau Cymraeg i staff 2024/25
Bydd y cyrsiau i staff yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn ar TEAMS.
Lefel | Cwrs | Diwrnod | Amser | Tiwtor |
---|---|---|---|---|
Dechreuwyr / Lefel 1 | Cyflwyniad (cwrs 8 wythnos) | Elen | ||
Lefel 2 | Mynediad 1 | Llun | 13:15–14:00 | Elen |
Lefel 3 | Mynediad 2 / Sylfaen 1 | Iau | 12:00–12:50 | Elen |
Lefel 4 | Canolradd 1 / Pellach | Mawrth | 13:00–13:50 | Jenny |
Lefel 5 | Canolradd 2 / Pellach | Llun | 13:00–13:50 | Jenny |
Lefel 6 | Uwch (sgwrs) | Mercher | 13:00–13:30 | Tiwtoriaid Canolfan Bedwyr |
Os nad ydach chi’n siŵr o’ch lefel, neu os dach chi am gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jenny neu Elen (Tiwtoriaid Cymraeg i Staff).
Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin – cyrsiau allanol ar bob lefel (2+ awr yr wythnos)
Mae cyrsiau mwy dwys (2+ awr yr wythnos) hefyd ar gael am ddim i staff trwy Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin. Mae ar gael. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost prifysgol wrth gofrestru.
Dosbarthiadau amser cinio i staff
Lefel 1: Cwrs i ddechreuwyr / Cyflwyniad i’r Gymraeg
Cwrs 8 wythnos i ddechreuwyr pur
Lefel: ar gyfer staff sy’n hollol newydd i’r iaith Gymraeg
Ynganu, ymadroddion a deialogau sylfaenol
Tiwtor: Elen Davies
Cysylltwch ag Elen am fwy o wybodaeth
Lefel 2
Cwrs ar gyfer staff sydd wedi cwblhau unedau dechreuol cwrs Cymraeg neu sydd â gwybodaeth syfaenol o’r iaith (ynganu ac ymadroddion rhagarweiniol).
Defnydd o’r amser presennol a’r gorffennol
Lefel : Mynediad 1
Tiwtor: Elen Davies
Bob dydd Llun 13:15–14:00
Lefel 3
Cwrs i staff sy’n gallu defnyddio’r amser presennol a’r gorffennol sylfaenol (dw i; rôn i; ’nes i ayyb.) Defnydd o’r presennol, gorffennol, a’r dyfodol, dymuniadau a gorchmynion.
Lefel : Mynediad 2 / Sylfaen 1
Tiwtor: Elen Davies
Bob dydd Iau 12:00–12:50
Lefel 4
Cwrs i staff sydd yn gyfarwydd ag amrywiaeth o batrymau ac amserau, ond sydd angen ennill hyder i’w defnyddio mewn sgwrs sylfaenol.
Adolygu ac ymarfer yr holl batrymau sylfaenol.
Lefel : Pellach 1
Tiwtor: Jenny Pye
Bob dydd Mawrth 13:00–13:50
Lefel 5
Cwrs i staff sy’n deall ac yn siarad rhywfaint o Gymraeg ond sydd am ennill hyder i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sgwrs o ddydd i ddydd.
Sgwrs Gymraeg ac adolygu patrymau iaith, amser y ferf, ymestyn geirfa.
Lefel : Pellach 2
Tiwtor: Jenny Pye
Bob dydd Llun 13:00–13:50
Lefel 6
Sesiynau sgwrsio i staff sy’n gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg ac sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Adolygu patrymau, ymestyn geirfa, trafod pynciau yn y Gymraeg.
Lefel : Uwch
Tiwtor: Tiwtoriaid Canolfan Bedwyr
Bob dydd Mercher 13:00–13:30