Marc Cymraeg Clir
Mae marc Cymraeg Clir yn gweithio yn yr un ffordd â’r Crystal Mark yn y Saesneg. Wrth weld y marc ar unrhyw ddogfen gyhoeddus, byddwch chi’n gwybod bod awdur y ddogfen wedi dilyn ‘rheolau’ Cymraeg Clir wrth ei hysgrifennu er mwyn eich helpu chi i’w darllen a’i deall yn rhwydd.
Mae marc Cymraeg Clir wedi cael ei gofrestru fel nod masnach.
Dim ond staff Uned Cymraeg Clir sydd â’r hawl i ddefnyddio marc Cymraeg Clir, ond gall cyrff cyhoeddus ennill yr hawl i ddefnyddio’r marc eu hunain trwy ymuno â’r Cynllun Partneriaid.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y cyswllt isod: