Polisi Iaith Gymraeg a Safonau'r Iaith Gymraeg: Canllaw Cyflym
- Cynllunio Academaidd
- Cyflwyno Asesiadau
- Cefnogi Myfyrwyr
- Cefnogaeth i Staff
- Gwasanaethau
- Cyhoeddiadau, Ffurflenni, Dogfennau
- Gwefan a Chyfryngau Cymdeithasol
- Ymgyrchoedd Marchnata
- Trefnu Digwyddiadau
- Projectau Ymchwil yng Nghymru
- Arwyddion
- Cyfrifoldeb Rheolwyr
Cynllunio Academaidd
- Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o Strategaeth Addysgu a Dysgu'r brifysgol ac o waith cynllunio pob coleg ac ysgol.
- Bydd cynigion ar gyfer cyrsiau a modiwlau newydd yn ystyried priodoldeb darparu'r cwrs neu fodiwl yn Gymraeg.
Cyflwyno Asesiadau
- Mae gan bob myfyriwr hawl i gyflwyno ei holl waith ysgrifenedig ac arholiadau yn Gymraeg, beth bynnag fo'r iaith y dysgir y modiwl drwyddi.
- Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i wneud cyflwyniadau yn Gymraeg.
- Cyfrifoldeb cydlynydd y modiwl yw trefnu bod gwaith myfyrwyr yn cael ei gyfieithu. Mae cyngor ar gael gan yr Uned Gyfieithu (translation@bangor.ac.uk / 2038 ) ac mae'r drefn sydd i'w dilyn wedi'i hamlinellu yn y Rheoliadau Rhaglenni Hyfforddedig (6.5 Cyflwyno Gwaith yn Gymraeg).
Cefnogi Myfyrwyr
- Rhaid pennu tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer pob myfyriwr sy'n siarad Cymraeg.
- Mae holl wasanaethau cefnogi'r brifysgol ar gael i fyfyrwyr yn Gymraeg.
- Mae gan fyfyrwyr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd.
Cefnogi i Staff
- Gall staff fynd at holl wasanaethau'r brifysgol yn Gymraeg.
- Gall staff gael hyfforddiant yn yr iaith Gymraeg am ddim ac yn ystod oriau gwaith.
- Mae staff yn cael eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith ac i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg.
Gwasanaethau
- Rhaid i holl 'wasanaethau'r' brifysgol fod ar gael yn Gymraeg i fyfyrwyr, staff a'r cyhoedd yng Nghymru.
- Bydd gwasanaethau o'r un ansawdd yn Gymraeg ac yn Saesneg, drwy fod yr un mor amlwg, yr un mor hawdd i'w defnyddio a'r un mor effeithiol.
- Mae hyn yn berthnasol i wasanaethau:
- wyneb yn wyneb
- ar y ffôn
- ysgrifenedig
- ar-lein
- ar beiriannau hunan-wasanaeth
Cyhoeddiadau, Ffurflenni, Dogfennau- Bydd cyhoeddiadau, ffurflenni a dogfennau'r brifysgol sydd wedi'u hanelu at fyfyrwyr a'r cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog.
- Rhaid nodi'n glir ar fersiwn Saesneg cyhoeddiadau fod fersiwn Gymraeg ar gael (Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Gymraeg / This form is also available in Welsh).
Gwefan a Chyfryngau Cymdeithasol- Bydd gwefan y brifysgol ac apiau sy'n cynnwys gwybodaeth i fyfyrwyr a'r cyhoedd yn ddwyieithog. (Nid oes angen i wefannau'n cynnwys manylion am brojectau ymchwil fod yn ddwyieithog.)
- Bydd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol corfforaethol ac adrannol yn ddwyieithog.
Ymgyrchoedd Marchnata- Rhaid i holl ymgyrchoedd marchnata a gynhelir yng Nghymru fod yn ddwyieithog.
Trefnu Digwyddiadau- Rhaid i rai sy'n gyfrifol am drefnu digwyddiadau (e.e. Dyddiau Agored, Cyngherddau, Darlithoedd Cyhoeddus a Chynhadleddau) sicrhau bod y 'gwasanaethau' sydd ar gael (yn cynnwys arwyddion) yn ddwyieithog. Dylai staff sy'n siarad Cymraeg fod wrth law i roi cymorth. Mae staff sy'n siarad Cymraeg yn cael eu hannog i wisgo bathodynnau oren 'Iaith Gwaith' i ddangos pwy ydynt.
Projectau Ymchwil yng Nghymru- Rhaid i bob gwybodaeth yn ymwneud â phrojectau ymchwil sy’n cael eu cynnal yng Nghymru fod yn ddwyieithog (neu yn iaith ddewisol yr unigolyn).
Arwyddion- Bydd unrhyw arwyddion gwybodaeth cyhoeddus (yn cynnwys arwyddion dros dro) y mae'r brifysgol yn gyfrifol amdanynt yn unrhyw le yng Nghymru yn ddwyieithog.
Cyfrifoldeb Rheolwyr- Mae Deoniaid, Penaethiaid Ysgolion a Phenaethiaid Gwasanaethau yn gyfrifol am weithredu'r Polisi Iaith Gymraeg o fewn eu maes cyfrifoldeb.
- Mae rheolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod trydydd partïon yn cydymffurfio â'r polisi. Os yw'r trydydd parti'n darparu 'gwasanaeth' fel y diffinnir hynny gan y Safonau, mae'n rhaid i ofynion iaith Gymraeg gael eu cynnwys yn y manylebau tendro. Mae cyngor ar gael gan Bennaeth Pwrcasu a Chanolfan Bedwyr.
- Rhaid i reolwyr gadw at y Cod Ymarfer ar Benodi Staff yn Unol â'r Safonau Iaith Gymraeg.
- Rhaid i reolwyr hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg o fewn eu hadrannau drwy, er enghraifft:
- Wneud myfyrwyr yn ymwybodol o'u hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg
- Ganiatáu i staff ddysgu'r Gymraeg yn ystod oriau gwaith
- Anfon negeseuon e-bost adrannol dwyieithog
- Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn cyfarfodydd adrannol
- Rhaid i bob Coleg gael cynrychiolydd Cyfrwng Cymraeg ar ei Bwyllgor Rheoli. Rhaid i bob Ysgol gael cynrychiolydd Cyfrwng Cymraeg o blith ei staff darlithio. Dylai pob adran / Coleg adnabod unigolyn i fod yn sy'n gyfrifol am hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn yr adran a goruchwylio cydymffurfio â'r Safonau Iaith Gymraeg
Trosolwg Polisi
- Polisi Iaith Prifysgol Bangor
- Cod Ymarfer ar Benodi Staff
- 10 Egwyddor
- Canllaw Cyflym
- Sylwadau & Chwynion