Wyddech Chi?
1. |
... fod yr ap Geiriaduron wedi'i lwytho i lawr dros 71,000 o weithiau. |
2. |
... fod yr Uned Gyfieithu yn cyfieithu yn agos at 4 miliwn o eiriau mewn blwyddyn. |
3. |
... fod dros 70% o staff y Brifysgol yn meddu ar sgiliau Cymraeg. |
4. |
... mai Uned Technolegau Iaith y ganolfan sy'n gyfrifol am yr ategyn Vocab a welir ar wefannau fel BBC Cymru Fyw a Golwg 360. |
5. |
... fod modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ym mhob un o ysgolion academaidd y Brifysgol. |
6. |
... fod dros 215 o athrawon a ddarlithwyr wedi cwblhau cwrs y Cynllun Sabothol oddi ar ei sefydlu yn 2007. |
7. |
... fod Cysill ar-lein yn cael ei ddefnyddio i wirio testun 850 o weithiau bob dydd. |
8. |
... mai yng Nghanolfan Bedwyr y cyfieithwyd y llwyfan addysgol byd-eang Blackboard am y tro cyntaf. |
9. |
... mai tudalennau 'Cymorth Cymraeg' yw'r rhai mwyaf poblogaidd ar wefan y Brifysgol ac eithrio'r dudalen gartref. |
10. |
... fod yna dros 90,000 o gofnodion unigol yn y fersiwn ar-lein o Geiriadur yr Academi |
11. |
... fod dros draean y myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru ym Mangor. |
12. |
... fod y ganolfan yn cynnig gweithdy ar sut i drydar yn Gymraeg ymhlith ei phortffolio eang o gyrsiau. |
13. |
... fod 500 o chwiliadau yn cael eu gwneud drwy'r Porth Termau Cenedlaethol yn ddyddiol. |
14. |
... fod yr Uned Gyfieithu yn cyfieithu ar y pryd mewn dros 250 o ddigwyddiadau bob blwyddyn. |
15. |
... fod y ganolfan wedi'i lleoli yn y neuadd lle cysgodd y Beatles ar eu hymweliad â Bangor yn 1967. |
16. |
... fod modd defnyddio'r rhaglen 'Cysgeir' i odli a chynganeddu. |
17. |
... fod rhyngwyneb Cymraeg ar gael ar offer ffitrwydd ledled y byd diolch i gydweithrediad rhwng cwmni Johnson Health Tech a'r ganolfan. |
18. |
... fod y ganolfan wedi gwerthu dros 5,000 o gopïau o'r 'Llawlyfr Gloywi Iaith'. |
19. |
... fod termau ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion Cymru yn cael eu safoni yn y ganolfan |
20. |
... fod y ganolfan wedi cydweithio ar holiadur Cymraeg 'Cyfrifiad 2011' i'w wneud yn gliriach a mwy dealladwy. |