Modiwlau Myfyrwyr
Os ydych chi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, ac eisiau datblygu eich sgiliau Cymraeg, mae gennym ni gwrs ar eich cyfer chi!
Rydyn ni’n cynnig modiwlau ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-radd sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg a dod yn fwy hyderus i ddefnyddio'r iaith yn eu gwaith academaidd.
Mae Canolfan Bedwyr hefyd yn cydweithio â rhai o ysgolion academaidd Prifysgol Bangor er mwyn rhoi cefnogaeth sgiliau iaith Gymraeg i fyfyrwyr yr ysgolion hynny o fewn eu modiwlau craidd.
Dyma fodiwlau Canolfan Bedwyr ar gyfer myfyrwyr:
Blwyddyn 1
CCB-1001 Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg 20 credyd, Semester 1
Nod y modiwl iaith hwn yw codi hyder myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig ar ddechrau eu cyfnod yn y Brifysgol. Bydd pwyslais ar ddefnyddio’r iaith yn gyffredinol ac mewn gwaith academaidd. Bydd y modiwl yn help i fyfyrwyr wneud aseiniadau yn y Gymraeg yn eu prif bynciau, ac yn eu paratoi at fyd gwaith Cymraeg neu ddwyieithog. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i rai sydd am ymgeisio am Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Blynyddoedd 2 a 3 (y modiwl i'w ddewis unwaith yn unig)
CCB-2203/CCB-33003 Cymraeg Gwaith 20 credyd, Semester 2
Mae’r modiwl hwn ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg i'w defnyddio’n hyderus ac effeithiol yng nghyd-destun y gweithle Cymraeg neu ddwyieithog. Mae’r modiwl wedi ei gynllunio ar gyfer y gweithle cyfoes lle y mae’n bosibl y bydd gofyn i staff weithio o bell a defnyddio amrywiol gyfryngau ar gyfer hynny. Bydd y modiwl yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer y cyd-destun hwn. Bydd hefyd yn eu paratoi at ymgeisio am Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd dau brif nod i’r modiwl. Yn gyntaf, galluogi’r myfyrwyr i ystyried pwrpas a chynulleidfa wrth wneud gwaith llafar ac ysgrifennu mewn amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol. Yn ail, magu hyder y myfyrwyr yng nghywirdeb eu sgiliau iaith drwy roi sylw i gywirdeb a gramadeg y Gymraeg.
Bydd cyfnod o brofiad gwaith gyda gweithle sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan bwysig o’r modiwl.
Myfyrwyr ôl-raddedig
CCB-4402 (15 credyd); CCB-4403 (20 credyd) Ymdrin â’ch Pwnc Drwy’r Gymraeg 15 neu 20 credyd, Semester 1 & 2
Mae'r modiwl wedi ei anelu at fyfyrwyr ôl-radd sydd eisiau datblygu eu sgiliau i drafod eu maes academaidd yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae'n addas ar gyfer siaradwyr iaith gyntaf a dysgwyr rhugl.
Bydd yn ddefnyddiol i chi os ydych chi eisiau ysgrifennu eich traethawd ymchwil yn Gymraeg neu os ydych chi am gyflwyno seminarau neu wneud cyflwyniadau ar eich maes arbenigol yn Gymraeg. Bydd hefyd yn eich paratoi at weithio’n hyderus yn y Gymraeg yn eich maes ac at ymgeisio am Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ymhlith y materion fydd yn cael sylw ar y modiwl fydd geirfa a thermau eich maes, cyweiriau’r Gymraeg, a sgiliau iaith cymhwysol fel trawsieithu a chyfieithu. Bydd pwyslais hefyd ar adnabod eich gwendidau iaith personol, a gweithio gyda thiwtor ac yn annibynnol i ddatblygu a gloywi eich iaith.
Mae’r modiwl ar gael ar ffurf 15 credyd ac 20 credyd, gyda’r myfyrwyr fydd yn dewis y modiwl 20 credyd hefyd yn creu portffolio o waith pynciol yn ychwanegol at yr asesiadau eraill. Bydd yn pontio dau semester, o fis Tachwedd hyd fis Mawrth.