Ap Geiriaduron
Daeth ap i'm gwneud yn hapus, o'r rhwydwaith
ces eiriadur swmpus,
a gwn y bydd ei gynnwys
yma o hyd ar flaen fy mys.
Mae'r Ap Geiriaduron yn eiriadur Saesneg-Cymraeg / Cymraeg Saesneg sy’n caniatáu i chi chwilio all-lein am filoedd o eiriau Cymraeg a Saesneg trwy nifer o ffynonellau, gan gynnwys CysGair, Y Termiadur Addysg a'r Termiadur Addysg Uwch.
Mae'r ap ar gael yn rhad ac am ddim i'w lwytho ar ddyfeisiau Android neu iOS.
Nodweddion:
- Chwilio’n sydyn mewn amser real
- Geiriadur all-lein er mwyn chwilio ar unrhyw adeg
- Ap cyffredinol ar gyfer Android, iPad a’r iPhone
- Graffigau ar gyfer Retina Display
- Iaith y sgrin ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, gyda modd i newid yr iaith
- Gallu dad-dreiglo a dad-redeg berfau i ddangos ffurf wreiddiol i eiriau
- Nodwedd manylu er mwyn cael gwybodaeth fwy manwl ar unrhyw air
- Chwilio gyda nodau chwilio; e.e. ei ddefnyddio fel odliadur drwy chwilio am ‘*aith’ er mwyn dangos geiriau sydd yn gorffen gyda ‘aith’
- Cynnwys y Geiriadur CysGair gyda dros 25,000 o eiriau Cymraeg a 25,000 o eiriau Saesneg
- Cynnwys geiriadur ‘; wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel geiriadur o dermau addysg safonol
- Porth i chwilio’n bellach ar-lein gyda’r Porth Termau ar
- Diweddariadau awtomatig er mwyn ychwanegu termau a geiriau newydd
Wedi’i greu gan Patrick Robertson, David Chan, Gruffudd Prys, Dewi Jones ac aelodau eraill o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.