Technoleg Cyfieithu
Mae technolegau iaith yn chwyldroi’r byd cyfieithu. Yma yn yr Uned Technolegau Iaith, credwn bod angen i’r diwydiant cyfieithu yn Nghymru feddu ar yr adnoddau a’r ddealltwriaeth sy’n ofynnol i allu meistrioli’r technolegau newydd hyn i’r eithaf.
Credwn y dylai’r diwydiant ddefnyddio technolegau cyfieithu ar y seiliau canlynol :
- Peiriannau cyfieithu parth-benodol
- Data ffynhonellau agored a chaeedig
- Perchnogaeth a rhannu
- Safonau, ymchwil a hyfforddiant
- Blaenoriaethu anghenion cwsmeriaid cyfieithu Cymraeg
Mae’r Porth Technolegau Iaith yn cynnwys nifer o adnoddau cyfieithu rhydd ac agored allai gyfrannu at wireddu’r nod hwn. Gobeithiwn y bydd y Porth yn arwain at egino a magu cymuned o ddatblygwyr ac ymarferwyr technolegau iaith o fewn y diwydiant cyfieithu Cymraeg.
Mae mwy o wybodaeth ar y