Cyrsiau Datblygu Proffesiynol
Mae gennym ni gyfres o gyrsiau datblygu sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer byd addysg yn ogystal 芒 chyrsiau sy鈥檔 agored i bawb.
Cyrsiau Byd Addysg
Gweithdai ymarferol yw鈥檙 cyrsiau byd addysg a鈥檜 prif amcanion yw:
- datblygu hyder ac annibyniaeth wrth loywi eich sgiliau iaith personol;
- datblygu ymwybyddiaeth bersonol o reolau iaith a gwallau cyffredin a gallu cymhwyso hyn yn eich gwaith yn yr ysgol / coleg;
- cyflwyno adnoddau defnyddiol a rhoi arweiniad ar sut i鈥檞 defnyddio 鈥 llyfrau gramadeg, Llawlyfr Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr; geiriaduron; gwefannau termau; offer cywiro cyfrifiadurol 鈥 CYSGLIAD ac ati
- gwneud ymarferion llafar ac ysgrifennu perthnasol i鈥檆h gwaith yn yr ysgol / coleg
- eich helpu i ymdrin yn hyderus 芒 gofynion y Fframwaith Llythrennedd
Cyrsiau Agored i Bawb
Gweithdai ymarferol yw鈥檙 cyrsiau sy鈥檔 agored i bawb a鈥檙 prif amcanion yw:
- datblygu hyder ac annibyniaeth wrth loywi eich sgiliau iaith personol;
- datblygu ymwybyddiaeth gyffredinol o reolau iaith a gwallau cyffredin;
- cyflwyno adnoddau defnyddiol a rhoi arweiniad ar sut i鈥檞 defnyddio 鈥 llyfrau gramadeg, Llawlyfr Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr, geiriaduron, gwefannau termau, offer cywiro cyfrifiadurol 鈥 CYSGLIAD ac ati;
- gwneud ymarferion llafar ac ysgrifennu perthnasol i鈥檆h gwaith
Cyrsiau datblygu sgiliau iaith i gwmn茂au a sefydliadau allanol
Rydyn ni hefyd yn cynnal cyrsiau iaith i gwmn茂au, asiantaethau a sefydliadau allanol sy鈥檔 awyddus i鈥檞 staff ddatblygu eu hyder i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg yn y gwaith. Mae鈥檙 cyrsiau hyn wedi鈥檜 seilio ar ein rhaglen o gyrsiau agored ond gallwn eu teilwra i鈥檆h gofynion trwy drafodaeth. Gallwn eu cynnal yn ein hystafell ddysgu bwrpasol yma yng Nghanolfan Bedwyr neu ddod atoch chi i鈥檞 dysgu.
Rydyn ni鈥檔 ceisio cadw鈥檙 dosbarthiadau鈥檔 fychan fel ein bod hefyd yn gallu rhoi sylw i anghenion unigolion lle bo hynny鈥檔 addas. Yr uchafswm o ran nifer mewn dosbarth fel arfer ydy 12.
Dyma rai sefydliadau sydd wedi defnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn yn y gorffennol:
- BBC Cymru
- Parc Cenedlaethol Eryri
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Rhwydwaith Cyfiawnder Gogledd a De Cymru
- Gyrfa Cymru
鈥淩oedd y cwrs yn wych! Y peth mwyaf defnyddiol oedd esboniad o鈥檙 rheolau a sut i ddenfyddio Cysgliad. Roedd y tiwtoriaid yn gr锚t! Awyrgylch braf iawn 鈥 neb yn teimlo bod pwysau arnyn nhw.鈥
(Cwrs Asiantaeth yr Amgylchedd, Mawrth 2012).
鈥滳wrs defnyddiol dros ben! Help i ysgrifennu dogfennau e.e. llythyrau, posteri, ffurflenni ac adroddiadau, a鈥檌 wneud yn hyderus. Diolch am ddau ddiwrnod hwylus a hwyliog iawn!鈥
(Cwrs Rhwydwaith Cyfiawnder Cymru, Mehefin 2012)
Rydyn ni鈥檔 rhoi copi o鈥檙 Llawlyfr Gloywi Iaith am ddim i bob aelod sydd yn dod ar gwrs gloywi iaith gyda ni.
Rydyn ni hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddiant CYSGLIAD ar wah芒n.
Cysylltwch 芒 ni i drafod gofynion penodol eich cwmni / eich sefydliad chi a chael dyfynbris.