Cysgliad:Trwydded am ddim
Gall unigolion, ysgolion, a chwmn茂au bach sy'n cyflogi 10 neu lai o bobl lwytho meddalwedd Cysgliad yn rhad ac am ddim ar eu cyfrifiadur Windows drwy fynd at dudalen lawrlwytho Cysgliad
Gosod
Dylai clicio ar y botwm Lawrlwytho ddechrau'r broses o lwytho Cysgliad i lawr a'i osod ar y cyfrifiadur.
Os na fydd y broses osod yn dechrau, efallai bod angen dwbl-glicio ar y ffeil sydd newydd ei llwytho i lawr ym mhanel neu ffolder Lawrlywthiadau (Downloads) y porwr.
Os bydd Windows yn dangos neges 鈥淢ae Windows wedi gwarchod eich cyfrifiadur鈥, does dim angen pryderu. Mae Cysgliad yn ddiogel, ac mae ganddo lofnod digidol Prifysgol Bangor. I barhau i osod Cysgliad, mae angen:
- clicio ar "Mwy o Wybodaeth..."
- clicio ar y botwm "Rhedeg beth bynnag"
(gweler y delweddau isod)
Yn yr un modd, os bydd eich meddalwedd gwrthfirws yn nodi bod Cysgliad yn fygythiad diogelwch, bydd angen i chi ddweud yn wahanol wrth y feddalwedd a鈥檌 roi i barhau gyda鈥檙 gosod.
Gwybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am feddalwedd Cysgliad, a'r rhaglenni Cysill a Cysgeir sydd ynddo, ar gael .
Cymorth
Mae cymorth yngl欧n 芒 gosod a defnyddio Cysgliad, Cysill a Cysgeir, ar gael .
Manylion Trwydded
Mae trwydded Cysgliad ar gyfer unigolion, ysgolion a chwmn茂au sy'n cyflogi 10 neu lai o bobl yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymdrech i helpu plant a'u teuluoedd, a'r cyhoedd yn gyffredinol, i weithio o bell ac elwa ar dechnoleg mewn ffyrdd newydd. Mae hyn hefyd yn rhan o鈥檙 ymgyrch i ddyblu鈥檙 defnydd o Gymraeg erbyn 2050.
Bydd Cysgliad yn parhau i fod ar gael ar y sail uchod tra bydd cytundeb Prifysgol Bangor gyda Llywodraeth Cymru yn para.