Ymchwil Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn dylanwadu ar yr agenda Ewropeaidd
Mae ymchwil ac adnoddau arbenigol Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr wedi derbyn sylw yn Senedd Ewrop yn ddiweddar, wrth i Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, gyfeirio mewn araith at waith yr Uned fel bod ar flaen y gad ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol. Roedd yr ASE yn cyflwyno canfyddiadau ar argymhellion y Digital Language Diversity Project (DLDP) yn eu hadroddiad ar sicrhau cyfartaledd ieithyddol mewn technoleg ddigidol. Yn dilyn yr araith gan Jill Evans ASE, gwahoddwyd pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Delyth Prys, a Phrif Beiriannydd Meddalwedd yr Uned, Dewi Bryn Jones, i siarad mewn cynhadledd ar dechnolegau iaith a chydraddoldeb digidol oddi fewn i Ewrop amlieithog.
Mae y DLDP ar ffurf Digital Language Survival Kit (Cit i Ieithoedd Oroesi’n Ddigidol) yn ceisio rhestru beth yw’r adnoddau digidol hanfodol ar gyfer ieithoedd bach Ewrop, a sut y gall cymunedau ieithyddol unigol fesur sefyllfa bresennol eu ieithoedd hwy er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar eu cyfer. Roedd ehangu’r project hwn yn un o argymhellion adroddiad a gymeradwywyd yn Senedd Ewrop ar 11 Medi eleni.
Ymhlith argymhellion eraill yr adroddiad i Senedd Ewrop oedd galwad i gryfhau fframweithiau sefydliadau Ewrop ar gyfer polisïau technoleg iaith a chreu polisïau ymchwil newydd i gynyddu’r defnydd o dechnoleg iaith yn Ewrop. Roedd hefyd yn argymell defnyddio polisïau addysg i sicrhau dyfodol cyfartaledd ieithoedd yn yr oes ddigidol, cynyddu’r gefnogaeth i gwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus wneud gwell defnydd o dechnolegau iaith, a chynyddu’r buddsoddiad ymchwil yn y maes.
Meddai Delyth Prys, yn dilyn ei chyflwyniad ar ymchwil diweddar yr Uned a’r adnoddau maent eisoes wedi eu darparu ar gyfer technolegau iaith Gymraeg ar y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol ():
‘Roedd hi’n braf derbyn cydnabyddiaeth o flaengaredd ein hymchwil ni yn Senedd Ewrop, a gweld bod cymunedau ieithyddol eraill yn edrych arnom ni am arweiniad. Mae gymaint allwn ni rannu gyda’n gilydd wrth greu llwyfannau technolegau iaith cyffredin i nifer o ieithoedd, o ran adnoddau, methodoleg a hyfforddiant. Mae’r gwaith rydym ni wedi’i wneud i greu geiriaduron electronig, cyfieithu peirianyddol a thechnoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg wedi dangos y ffordd i ieithoedd bach eraill yn Ewrop. Erbyn hyn mae croeso hefyd i’r syniad fod hybu diwydiannau meddalwedd a thechnoleg iaith yn ein cymunedau ni ein hunain yn ffordd o rymuso’r cymunedau hynny a chyfrannu at adfywiad economaidd.’
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018