Technoleg Gymraeg yn Hwb i鈥檙 Economi
Gall technolegau arloesol Cymraeg fod yn hwb i economi gogledd Cymru 鈥 dyna oedd un o brif negeseuon . Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd yn ddiweddar (20 Ionawr) yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor.
Roedd y Gynhadledd hefyd yn arddangos datblygiadau cyffrous mewn technoleg lleferydd Cymraeg, yn trafod sut all y Gymraeg helpu ieithoedd eraill, ac yn egluro鈥檙 ffordd mae鈥檙 dechnoleg yn helpu datblygu economi Cymru. Noddwyd y gynhadledd gan Lywodraeth Cymru a鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Agorwyd y gynhadledd gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies ac fe鈥檌 croesawyd i Brifysgol Bangor gan yr Athro David Shepherd, y Dirprwy i鈥檙 Is-Ganghellor.
Dywedodd y Gweinidog Alun Davies AC: 鈥淢ae sicrhau fod isadeiledd cadarn i鈥檙 iaith Gymraeg yn hollbwysig yn y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a bydd yn parhau yn flaenoriaeth wrth i ni ddatblygu鈥檔 strategaethau iaith i鈥檙 dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn technolegau iaith, fel y rhai arloesol cafodd eu lansio heddiw.
鈥淒efnydd o鈥檙 Gymraeg sy鈥檔 bwysig; mae鈥檔 hanfodol fod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael gafael ar dechnoleg i gefnogi eu defnydd o鈥檙 Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd.鈥
Trefnwyd y gynhadledd gan Delyth Prys, pennaeth yr Uned Technolegau Iaith (UTI) a leolir yng Nghanolfan Bedwyr.
Dywedodd Delyth 鈥淢ae鈥檙 Llywodraeth wedi bod yn hael iawn yn noddi ein project Macsen, sy鈥檔 datblygu cynorthwyydd personol Cymraeg tebyg i Alexa, Siri neu Cortana, ac roedd hi鈥檔 dda iawn cael dangos y cynnydd diweddaraf i Alun Davies. Mae鈥檙 Llywodraeth hefyd wedi noddi ysgoloriaeth KESS i fyfyriwr PhD weithio ar dechnoleg lleferydd Cymraeg gyda ni a鈥檙 Ysgol Ieithyddiaeth, ac roedd hi鈥檔 braf iawn i鈥檙 Gweinidog gael cyfarfod gyda鈥檙 myfyriwr, Indeg Williams.鈥
Yn ogystal 芒 siaradwyr o Gymru, roedd Mohomodou Houssouba o Brifysgol Basel yn y Swistir, sydd yn wreiddiol o Mali, yn siarad ar sut roedd wedi addasu technoleg cyfieithu yr UTI i weithio gyda鈥檙 Ffrangeg a鈥檙 Songhay, a sut y gellir defnyddio technoleg fel hyn ar draws ieithoedd i arbed costau datblygu. Siaradwr gwadd arall oedd Cathal Convery, Rheolwr Project Geiriadur Foras na Gaeilge yn Iwerddon, yn trafod eu Cynllun Digidol newydd ar gyfer y Wyddeleg.
Yn y prynhawn bu cwmn茂au meddalwedd o Gymru yn dangos cynnyrch masnachol i gynorthwyo鈥檙 Gymraeg. Yn eu plith roedd cwmni Galactig sy鈥檔 gwneud apiau a chynnyrch teledu Cymraeg; Inteceptor Solutions sy鈥檔 gwneud LinguaSkin, sef rhyngwynebau amlieithog i wefannau; cwmni cyfryngau rhyngweithiol Moilin; a Semantise Ltd. sy鈥檔 gwneud meddalwedd dwyieithog i鈥檙 sector addysg.
Yn 么l Stefano Ghazzali, datblygwr meddalwedd yn yr UTI a chadeirydd y sesiwn ar Y Gymraeg a鈥檙 Economi:
鈥淩oedd hi鈥檔 galonogol gweld cymaint o gwmn茂au Cymreig yn dod 芒 chynnyrch arloesol i鈥檙 farchnad, yn creu swyddi newydd ac yn cefnogi鈥檙 iaith Gymraeg ar yr un pryd.鈥
Un o uchafbwyntiau鈥檙 diwrnod oedd cyflwyniad Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd yr UTI, ar Macsen ac Adnabod Lleferydd Cymraeg. Mae hwn yn faes sy鈥檔 symud ymlaen yn gyflym, gyda dulliau niwrol newydd, sy鈥檔 efelychu sut mae鈥檙 ymennydd dynol yn gweithio, yn dangos addewid mawr i wella鈥檙 dechnoleg ar gyfer pob iaith. Bydd yr UTI yn rhoi ffrwyth y project Macsen ar wefan y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol, lle gall unrhyw un, gan gynnwys cwmn茂au masnachol, gael at yr adnoddau i鈥檞 defnyddio yn eu cynnyrch eu hun.
Rhaglen y gynhadledd Technoleg a鈥檙 Gymraeg:
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2017