Prosiect i roi llais i siaradwyr Cymraeg sy'n dioddef o ganser y llwnc
Mae prosiect sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru i helpu siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais i barhau i gyfathrebu drwy eu mamiaith wedi derbyn ymweliad gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.
Mae'r prosiect Lleisiwr, sydd wedi derbyn 拢20,000 o gronfa grant Cymraeg 2050, yn gyfrifol am ddatblygu technoleg sy'n creu lleisiau synthetig personol i siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu gallu i siarad oherwydd clefydau fel canser y llwnc. Mae'r gwaith yn cael ei ddatblygu gan Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor mewn partneriaeth 芒 Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac unwaith y bydd yn barod caiff ei gyflwyno ledled Cymru.
Ar hyn o bryd, dim ond lleisiau synthetig Saesneg eu cyfrwng sydd ar gael i gleifion sydd wedi colli eu llais a gall hyn effeithio ar eu gallu i gyfathrebu 芒 ffrindiau ac aelodau'r teulu maen nhw wedi siarad Cymraeg 芒 nhw ar hyd eu hoes.
Mae'r grant Cymraeg 2050 yn elfen allweddol o strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae'n cynnig grantiau bychan hyd at 拢20,000 yr un tuag at brosiectau arloesol, tymor byr gyda'r nod o gynyddu defnydd pobl o'r iaith o ddydd i ddydd ac i hybu technoleg sy'n cefnogi'r defnydd a wneir o'r Gymraeg. Cymeradwywyd chwech ar hugain o brosiectau yn ystod y rownd ariannu gyntaf a bydd yr ail rownd ariannu yn agor i ymgeiswyr yn hwyrach eleni.
Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Delyth Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr: 鈥淩oedd hi鈥檔 bleser cael croesau Gweinidog y Gymraeg atom ni i edrych ar y prosiect hwn. Mae鈥檙 gwaith cyffrous yma yn rhoi cyfle i ni ddefnyddio ein technoleg siarad Cymraeg mewn sefyllfa ymarferol er budd cleifion. Rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at weld ymateb pobl sy鈥檔 cael eu cyfeirio atom ni gan y Gwasanaeth Iechyd, ac at ddatblygu鈥檙 dechnoleg yma ymhellach yn y dyfodol.鈥
Dywedodd y Gweinidog: "Mae'r ymweliad heddiw wedi bod yn unig yn addysgiadol ond yn hynod o ysbrydoledig. Mae fy ngyrfa wedi'i seilio ar fy ngallu i siarad felly mae'n bosib mod i'n fwy ymwybodol na llawer pa mor frawychus fyddai golli'r gallu hwnnw oherwydd salwch. Colled hyd yn oed fwy fyddai colli'r gallu i siarad 芒 fy nheulu a'm ffrindiau yn yr iaith ry'n ni wedi arfer ei siarad bob dydd. Rydw i wrth fy modd felly fod Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gweithio ar y prosiect Lleisiau Cymraeg ac yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y prosiect.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2018