Prifysgol Bangor yn lansio ‘siop un stop’ ar gyfer y Gymraeg
Mae Prifysgol Bangor heddiw (Mercher 8 Mehefin) yn lansio , sef adnodd ar wefan y Brifysgol fydd yn cynorthwyo staff a myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.
Bydd Cymorth Cymraeg yn ‘siop-un-stop’ arbennig ar gyfer y Gymraeg ar wefan y Brifysgol. Bydd dwy brif adran y wefan yn cynnig adnoddau ysgrifennu a siarad, yn cynnwys templedi ar gyfer negeseuon e-bost a ffeiliau sain i helpu gydag ynganu’r Gymraeg. Bydd y tudalennau newydd yn cynnig cefnogaeth ymarferol i staff ac yn rhoi hyder iddynt roi’r iaith ar waith. Bydd y wefan yn cael ei lansio’n swyddogol / Cafodd y wefan ei lansio’n swyddogol gan Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes.
Wrth dynnu sylw at arwyddocâd y wefan, meddai: ‘Rwyf yn croesawu’r datblygiad hwn yn fawr. Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad sy’n rhoi gwerth ar sgiliau iaith Gymraeg ac sy’n annog staff a myfyrwyr i ddatblygu a chynnal y sgiliau hynny. Mae sgiliau Cymraeg fy nghydweithwyr yn hollbwysig o ran galluogi’r sefydliad i weithredu’n ddwyieithog a bydd Cymorth Cymraeg yn adnodd gwerthfawr iddynt yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Ar lefel bersonol, wrth i mi ddysgu Cymraeg a defnyddio’r iaith fwyfwy yn fy ngwaith, byddaf yn sicr o droi at y wefan am arweiniad a chymorth’.
Cafodd y wefan ei datblygu yng Nghanolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol. Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: ‘Gyda strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yn rhoi pwyslais sylweddol ar hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg, rydym yn gobeithio y bydd y datblygiad cyffrous hwn yn gyfraniad ymarferol tuag at gyflawni’r nod hwnnw ym Mhrifysgol Bangor, ac yn cynnig patrwm posib ar gyfer sefydliadau eraill.’
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2011