Prifysgol Bangor yn ennill Gwobr Iaith Gymraeg
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr genedlaethol am y defnydd gorau o鈥檙 Gymraeg ym maes Adnoddau Dynol.
Cyflwynwyd y wobr, a noddwyd gan ymgyrch Dysgu Cymraeg Llywodraeth Cymru, fel rhan o Wobrau Adnoddau Dynol Cymru mewn noson fawreddog a drefnwyd gan Rwydwaith Adnoddau Dynol Cymru.
Roedd cais Prifysgol Bangor yn dangos ymrwymiad parhaus yr adran Adnoddau Dynol i ddarparu gwasanaeth dwyieithog cynhwysfawr i staff ac i bobl sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 t卯m o鈥檙 tu allan i鈥檙 brifysgol. Mae鈥檙 ymrwymiad hwn i ddarparu gweithle dwyieithog yn amlygu pwyslais y brifysgol ar fod yn gwbl ddwyieithog, i鈥檞 myfyrwyr a鈥檌 staff.
Wrth longyfarch y t卯m Adnoddau Dynol, dywedodd yr Athro Jerry Hunter, y Dirprwy Is Ganghellor gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg ac Ymwneud 芒鈥檙 Gymuned: 鈥淣id oedd t卯m mor haeddiannol erioed! Mae ein hadran Adnoddau Dynol wedi bod, ac yn parhau i fod, yn rhan hanfodol o鈥檔 llwyddiant gyda鈥檙 Gymraeg.鈥
Meddai Tracy Hibbert, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol:
鈥淢ae cael cydnabyddiaeth am ein hymdrechion i gynnig dewis iaith yn ein darpariaeth Adnoddau Dynol yn deimlad gwych, boed hynny am ddatblygu staff, cynnal cyfarfodydd, recriwtio neu gynnig prosesau dwyieithog ar-lein. Mae鈥檙 wobr hefyd yn gydnabyddiaeth o lwyddiant aelodau allweddol o staff yr adran wrth gyrraedd lefelau uchaf Cymraeg yn y Gweithle, ac mae hyn yn ganolog i鈥檔 gallu i gynnig dewis iaith yn ein gwasanaethau.鈥
Mae Prifysgol Bangor yn arwain y ffordd wrth sicrhau y gall staff gael mynediad at holl wasanaethau鈥檙 brifysgol drwy鈥檙 Gymraeg, wrth sicrhau darpariaeth dysgu Cymraeg yn y gweithle i staff yn rhad ac am ddim yn ystod oriau gwaith. Mae鈥檙 brifysgol yn annog defnydd o鈥檙 Gymraeg yn y gweithle ac yn annog staff i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Yn ogystal ag arwain y ddarpariaeth addysg uwch drwy鈥檙 Gymraeg, o ran maint ac amrediad cyrsiau, mae Prifysgol Bangor hefyd yn chwifio鈥檙 faner dros wasanaethau a chefnogaeth ar gyfer y Gymraeg.
Mae鈥檙 gwasanaeth a ddarperir gan adran Adnoddau Dynol y brifysgol yn adlewyrchu natur ieithyddol yr ardal a hefyd yr arfer gorau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae鈥檔 enghraifft o wasanaethau adnoddau dynol dwyieithog sydd hefyd yn mynd i鈥檙 afael 芒 rhai o fentrau allweddol Llywodraeth Cymru i gynnal a datblygu鈥檙 Gymraeg.
Mae gan y brifysgol ganran uchel o staff sy鈥檔 siarad Cymraeg neu鈥檔 dysgu Cymraeg. Ar hyn o bryd mae 45% o staff yn siarad Cymraeg a 25% yn siarad ychydig o Gymraeg. Mae 53% o staff rheoli a chefnogi yn siarad Cymraeg a 60% o鈥檙 staff clerigol yn siarad Cymraeg.
Dangosodd arolwg barn diweddar ymysg staff y brifysgol fod lefel uchel iawn o foddhad gydag ethos a darpariaeth ddwyieithrwydd y brifysgol. Roedd 89% o鈥檙 staff yn teimlo bod ganddynt gyfle i ddefnyddio鈥檜 sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Roedd 88% o staff yn credu bod eu Coleg neu eu Hadran yn gweithredu鈥檔 ddwyieithog. Nododd 96% o staff bod y brifysgol yn darparu gwybodaeth am y Polisi Iaith Gymraeg, a chredai 91% bod staff yn cael cefnogaeth i weithredu鈥檙 polisi ac roedd 92% yn credu eu bod yn cael cefnogaeth i ddatblygu a gwella鈥檜 sgiliau Cymraeg.
Llun:
O鈥檙 chwith I鈥檙 dde: Geraint Wilson-Price, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Gwent yn cyflwyno鈥檙 wobr i Nia Meacher, Dirprwy Gyfarwyddwr AD (Datblygu Staff), Tracy Hibbert, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, a Mari Ellis-Roberts, Swyddog Adnoddau Dynol (Datblygu Staff).
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2018