Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol yn rhoi meddalwedd allweddol i ddatblygu technoleg yn y Gymraeg
Bydd adnoddau meddalwedd allweddol a ddisgrifir fel y blocau adeiladu ar gyfer llunio technoleg cyfrifiadurol yn y Gymraeg yn cael ei ryddhau am ddim i gwmn茂au, codwyr a haciwyr iaith yn dilyn eu datblygiad gan Brifysgol Bangor.
Ymysg yr wyth rhaglen neu adnodd gyntaf i鈥檞 gyhoeddi o da faner Port Technolegau Iaith bydd rhaglen cyfieithu peirianyddol Cymraeg i Saesneg, llais synthetig Cymraeg, corpws Cymraeg o鈥檙 cyfryngau cymdeithasol. Dyma鈥檙 math o 鈥榝lociau adeiladu鈥 sydd eu hangen ar beirianwyr meddalwedd wrth lunio apiau, gemau a gwefannau Cymraeg, a bydd modd eu defnyddio yn rhad ac am ddim wrth godio neu greu rhaglenni.
Noddwyd y project gan 拢49,779 o gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2014-15 Lywodraeth Cymru, er mwyn ysgogi creu pecynnau meddalwedd a gwasanaethau digidol Cymraeg newydd.
Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:
鈥淢ae technoleg yn rhan bwysig o鈥檔 bywydau bob dydd felly mae鈥檔 bwysig bod yr technoleg diweddara ar gael yn ddidrafferth i gefnogi鈥檙 Gymraeg fel iaith byw. Fe fydd yr adnoddau yma, sydd wedi cael ei datblygu gyda arian o鈥檔 gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg, nawr ar gael yn rhydd ac yn hawdd i ddatblygwyr. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld y defnydd creadigol fydd yn cael ei wneud ohonyn nhw.
Ychwanegodd Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, sy鈥檔 gyfrifol am y project:
鈥淩oedd gyda ni nifer o adnoddau roedden ni wedi datblygu at ein dibenion mewnol ein hunain, neu ar gyfer projectau penodol, ac roedden ni鈥檔 awyddus i fwy o ddatblygwyr gael budd ohonyn nhw. Bydd eu gosod nhw gyda鈥檌 gilydd yn hwylus mewn un man canolog yn gam mawr ymlaen.鈥 Eglurodd Dewi hefyd, 鈥淵n ogystal 芒 bod yn adnodd gwerthfawr i ddatblygwyr proffesiynol sydd a diddordeb mewn datblygu bob agwedd o gyfrifiaduro drwy鈥檙 Gymraeg, mi fyddan nhw hefyd ar gael i bobl ifanc mewn clybiau codio, a gwirfoddolwyr a hacwyr sy鈥檔 mwynhau defnyddio鈥檙 Gymraeg ar eu cyfrifiaduron.
Er mwyn lansio鈥檙 Porth Technolegau Iaith, cynhelir cynhadledd o鈥檙 enw 鈥淭rwy Ddulliau Technoleg鈥 ym Mhrifysgol Bangor ar y 6ed o Fawrth, 2015, i鈥檞 ddilyn drannoeth gan ddigwyddiad Hacio鈥檙 Iaith. Yn ogystal ag arddangos rhai o鈥檙 adnoddau newydd, bydd siaradwyr gwadd o fri rhyngwladol yn cyflwyno鈥檜 gweledigaeth hwy ar gyfer ieithoedd fel y Gymraeg sy鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd ennill eu lle yn y byd digidol. Yn eu plith mae Jeff Beatty, o鈥檙 Mozilla Foundation, Provo, Utah; Kepa Sarasola o brifysgol Gwlad y Basg, a John Judge, o brifysgol DCU, Dulyn, sydd i gyd yn gweithio gyda ieithoedd prin eu hadnoddau digidol, fel y Gymraeg.
Meddai鈥檙 Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, fydd yn agor y gynhadledd:
鈥淩wy鈥檔 croesawu鈥檔 fawr iawn y cyfle hwn i鈥檙 Gymraeg ddangos arweiniad yn y maes digidol. Mae llawer o ieithoedd mewn sefyllfa debyg i鈥檙 Gymraeg, a gallwn ni ddysgu llawer wrth ein gilydd wrth geisio sicrhau presenoldeb teilwng i鈥檔 hieithoedd ar y cyfryngau digidol. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld yr adnoddau hyn yn fyw ar y Porth Technolegau Iaith.鈥
Bydd yr adnoddau i gyd ar gael o 5 Mawrth ymlaen drwy wefan .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2015