Mae bron hanner o鈥檙 holl fyfyrwyr sy鈥檔 astudio cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg bellach yn gwneud hynny ym Mhrifysgol Bangor
Mae ystadegau diweddar wedi datgelu fod bron hanner o鈥檙 holl fyfyrwyr sy鈥檔 astudio cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg bellach yn gwneud hynny ym Mhrifysgol Bangor. Yn ogystal, ym Mhrifysgol Bangor mae鈥檙 nifer fwyaf o ddarlithwyr sy鈥檔 addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac yn hollbwysig er mwyn cyflawni strategaeth y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Meddai鈥檙 Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-gangellor Prifysgol Bangor: 鈥淢ae cael cyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg gyflawn, sy鈥檔 caniatau i blant a phobl ifanc Cymru ddysgu ac astudio drwy鈥檙 Gymraeg o鈥檙 cyfnod meithrin hyd at gyfnod addysg uwch, yn gwbl allweddol at ffyniant yr iaith.
鈥淲rth anelu i gyrraedd y miliwn erbyn 2050, mae鈥檔 hanfodol fod ein sefydliadau addysg uwch ni yn rhoi鈥檙 cyfle i bobl ifanc barhau 芒鈥檜 haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn hyn o beth, calondid yw gweld fod Prifysgol Bangor yn arwain y maes yng Nghymru ac yn darparu cyfleoedd niferus i fyfyrwyr astudio rhaglenni gradd llawn a modiwlau unigol yn yr iaith.鈥
Ychwanegodd yr Athro Hunter: 鈥淓r bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cael eu dosbarthu ledled Cymru, mae鈥檔 rhyfeddol fod 44% o鈥檙 holl fyfyrwyr sy鈥檔 astudio cwrs gradd yn gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud hynny ym Mangor.
鈥淢ae鈥檔 wych ei bod hi鈥檔 bosib astudio rhai pynciau yn gyfangwbl trwy鈥檙 Gymraeg, ond dylid cofio hefyd y gellir astudio elfennau o bob pwnc ym Mangor drwy鈥檙 Gymraeg.鈥
Gwelwyd yn ddiweddar fod Prifysgol Bangor yn arwain mewn sawl maes sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 Gymraeg. Cyhoeddwyd y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru yn Medi 2018, cyfeirlyfr awdurdodol sydd yn cwmpasu holl gyfoeth cerddoriaeth yng Nghymru o鈥檙 6ed Ganrif hyd at y presennol. Ac yng nghyd-destun y cyfnod presennol a lle technolegau yn ein bywydau beunyddiol, rhoddwyd sylw i ymchwil ac adnoddau arbenigol Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn Senedd Ewrop yn ddiweddar.
Yn ogystal 芒 hyn, bu鈥檙 Uned Technolegau Iaith yn gyfrifol am gyfrannu eu harbenigeddau at gynllun gweithredu technoleg Cymraeg a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn mis Hydref 2018, gan arwain ar ddatblygu fersiynau Cymraeg o gynorthwywyr personol digidol a systemau deallusrwydd artiffisial a fydd yn caniat谩u i鈥檙 peiriannau hyn ddeall Cymraeg. Yn ogystal, o ganlyniad i arbenigeddau Prifysgol Bangor, bydd modd defnyddio technoleg er mwyn datblygu system cyfieithu peiriannyddol, a fydd yn arwain at gynyddu nifer y testunau Cymraeg fydd ar gael i鈥檞 darllen a鈥檜 clywed.
Esboniodd yr Athro Hunter, bwysigrwydd arbennigedd y Brifysgol:
鈥淵n ogystal 芒 bod yn ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg o bwys, mae鈥檔 wych gweld Prifysgol Bangor yn arwain ar yr holl elfennau atodol hynny 鈥 ymchwil, polisi a thechnoleg 鈥 sy鈥檔 cyfrannu at gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nid agweddau ar wah芒n mo rhain, yn bodoli mewn gwagleoedd, ond yn hytrach y seilwaith sydd ei hangen arnom wrth i ni gyrchu鈥檙 nod uchelgeisiol hwn.鈥
鈥淒oes dim dwywaith fod Bangor yn arwain ar ddatblygu a chynyddu鈥檙 cyfleoedd sydd ar gael er mwyn defnyddio鈥檙 Gymraeg. Mae ein cyfraniad tuag at ysgolheictod trwy gyfrwng y Gymraeg yn unigryw, ond yn bwysicach fyth efallai, yw ein cyfraniad tuag at ddiogelu a chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
鈥淩haid cofio fod myfyrwyr Bangor yn datblygu i fod yn athrawon, staff iechyd, pobl fusnes, gwyddonwyr a gweision sifil y dyfodol, ac mae鈥檙 ffaith fod cynifer ohonynt wedi cyflawni eu gradd trwy鈥檙 Gymraeg yn hanfodol i lwyddiant strategaeth y Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,鈥 ychwanegodd yr Athro Jerry Hunter.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2018